Wel, fe aethon ni yn y diwedd!
Mae gan y gwr feini prawf manwl iawn pan mae'n dod i fynd mas i fyta:
Dim rhy bell (wedi blino ar ôl wythnos steddfod a dau ddiwrnod yn gwaith)
Dim rhy agos (pobol yn mwydro)
Dim mwg
Dim miwsig uchel
Dim Saeson uchel eu cloch
Dim Cymry dosbarth canol ymhonnus
Dim rhy ddrud
Ac fe ffindion ni le oedd yn ateb y gofynion i gyd - a doedd e ddim hyd yn oed ar fy rhestr fer o 13 - RhiKas - Caernarfon.
Dwy Gymraes ifanc glên yn syrfio
Miwsig Cymraeg dim rhy uchel - Celt ac Abacus Bryn Fôn - ond o leia roedd e'n Gymraeg
Bwydlen Gymraeg
Bwyd ardderchog a digon ohono
Gwd achan