Manon a ddywedodd:'Dwi'n bleb efo chwaetha' syml, ond ma' Java yn 'neud bwyd lysh yn y nosweithia'.
Java yn Bangor???!!!! Dwi di bod no, y bwyd yn edrych mor neis, di osod mewn ffor wahanol a'i gwcio'n dda. Rioed di byta'n iawn na ddo
Ma na lefydd neis yn Mon fyd:-
Old Boat House, Traeth Coch-bwyd neis, digon syml, digon ohono fo, a cymry clen yn gweithio na bob tro dwi yno.
Jade Village, Borth-chinese anhygoel, wasdad yn cal bancwet, stwffio'n hunain yn wirion a poen bol anferth rol byta gormod. . . chydig yn ddrud ella (diom yn rhad de), ond moooor neis.
Dros y bont wedyn:-
Macsen, Caernarfon-di cael pryd cinio neis yn fama, wnim sud ma'r pryda gyda'r nos ddo
os dio'n gorad gyda'r nos??!?!?!!!
Wnim sud fwyd sy'n Fat Cat Bangor??!!! Fod i fynd am fwyd fo'r genod heno, rhwng Fat Cat, Tafarn y Bont (Borth), Java, ne La Belle Vita (Bangor, dros ffor i Fat Cat) fydd hi beryg. . . os na fydd o'n rwla da ni di bod o blaen
nrhyw awgrymiadau??!!!!