Shampên Ysgawen
6 blodyn ysgawen
2 Lemwn wedi tafellu
8 peint o ddwr
1.5 lb siwgir
2 tbsp finegar gwyn
Dull:
Rhowch y blodau a'r lemwn mewn cerwyn glan a arllwyswch y dwr arnynt. Sociwch am 24-36 awr. Hidlwch yr hylif drwy lliain/clwtyn dennau ac ychwanegwch y siwgir a'r finegr. Trowch y cyfan gyda llwy bren nes i'r siwgr diflannu. Rhowch mewn boteli gyda'r topiau yn llac am bythefnos. bydd y Shampên Ysgawen yn barod ymhen 2-3 mis.
Hyfryd Iawn
Iechyd Ceffyle!