Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 07 Meh 2007 3:33 pm
gan bartiddu
Rhaid aros i'r blodau droi'n aeron mae'n debyg, i neud y gwin, ma siwr o fod ryseit ar y we rhywle!
Ma rhai'n rhoi 6-7 blodyn, eraill yn rhoi 15- 20 lan i chi, arbrofwch y jiawled! 8)

PostioPostiwyd: Iau 07 Meh 2007 3:48 pm
gan Lletwad Manaw
Bach o wanieth rhwng 6-7 ne 15-20 iyffach!!! Digon i wythu dy ben di off!

Wedi profi gwin blodau ysgaw or blan ond odd e ddim yn ffizzi fel siampen, ise gwbod odw i be sydd yn rhoi'r ffizz iddo fe gan nad yw cynhwysion y rysait yn cynnwys unrhywbeth i greu y fizz.

Gobitho fod hwnna'n neud synwyr.

PostioPostiwyd: Iau 07 Meh 2007 4:00 pm
gan bartiddu
Weden i mae'r siwgir sy'n neud y fiz yn y pendraw, angen gwyddonwr i ateb pam!
Ond mae yna ddull amgen ar y gwefan BBC hyn :- http://www.bbc.co.uk/dna/h2g2/A593363

PostioPostiwyd: Iau 07 Meh 2007 4:05 pm
gan Rhodri Nwdls
bartiddu a ddywedodd:Weden i mae'r siwgir sy'n neud y fiz yn y pendraw, angen gwyddonwr i ateb pam!
Ond mae yna ddull amgen ar y gwefan BBC hyn :- http://www.bbc.co.uk/dna/h2g2/A593363


Cyfuniad y siwgwr a'r burum sydd yn bodoli'n naturiol yn y blodau. Jest digon ohono fo i greu fizz. :)

Wedi gwneud dau batch gwahanol o cordial gyda dau ddull gwahanol neithiwr...potelu heno. Nai ddod nôl efo'r canlyniada...

Ddim am drio shampên eto. Dim poteli addas!

Un peth sgen i ddeud ddo, ma'r ty yn drewi braidd rwan a dwi di bod efo'r sniffls drwy'r dydd achos yr holl baill.

Oedd na lwyth o bygs yn ein bloda ni, felly gnewch yn siwr bo chi'n ffiltro'n dda cyn potelu. Ach!

PostioPostiwyd: Mer 13 Meh 2007 1:47 pm
gan SerenSiwenna
Felly poteli gwin hefo'r corcyn di safio ai rhoid nol mewn? Neu rhai or siop sydd hefo'r topau fel yr hen pop (sort of corcyn ar wiren sy'n plygu?

PostioPostiwyd: Mer 13 Meh 2007 3:24 pm
gan bartiddu
hen boteli wisgi a gin sda fi ( wedi cael nhw gan rhywyn wrth gwrs, sai'n yfed y fath bethe! ;) )

*Aeth hi'n 8 liter o ddwr yn y diwedd, cwdyn a chwarter o shwgir a dwni'm faint o flode :ofn: ( Iysu y gwybed oedd yndo nhw! Fel dywedir uchod boddwch y trueiniaid am o leiaf 10 munud!) 8 boteled a hanner yn y diwedd, wedi profi'r hanner botel ar ol wythnos o'i 'neud, a ma fe'n ffacin ffein, yn sicir mae'n werth rhoi bach mwy o shwgir yn y mysg, ma gymaint o flodau ar y coed nawr dwi mynd i weithio ail fragad!