Cacamwri a ddywedodd:Yn syml iawn, pot o iogwrt groegaidd naturiol, organig efo mel Cymreig wedi ei dywallt ar y top. Mmmmm
Mm, dwi'n cael hwnna'n reit aml (ond efo mel rhad, nid Cymreig ). Nes i'w drio fo efo triog melyn ond dio'm patsh ar y stwff gwenynaidd
Un arall: dwy danjarin a'r segments wedi eu torri a'u ffrwtian efo llwyaid go dda o driog melyn a sbeis o'ch dewis chi (fanila, sunsur, sinamon) am chydig funudau wedi eu tollti dros hufen ia neu iogyrt plaen.
Hwn yn debyg i'r uchod ond yn well - torri mango yn giwbiau (ma nhw'n hanner pris yn Tesco ar hyn o bryd i chi gal gwbod) rhoi mymryn o olew, joch go dda o sudd oren/afal pin, pinsiad o bupur du a pinsiad o jili fflecs mewn sosban a lluchio'r mango i mewn (peidiwch sblasho). Wedyn ei ferwi ffwl pelt (dwi'n ddiamynedd) i adael i'r dwr anweddu, wedyn troi'r gwres i lawr pan mae'r sos bron a charameleiddio er mwyn iddo gael troi'r mango yn frown neis. Wedyn ei fwyta efo iogyrt. Mm.
Reit, dwi'n bwyta eitha od ar hyn o bryd...a dwnim os ydi hwn yn bwdin, ond mae o'n felys ta beth!
Banana ar dost gyda twist.
Dwy dafell o fara trwchus
Rhowch joch go dda o rym dros y bara
Sleiswch y banana, a'u gosod ar y ddwy dafell
Gwasgwch sudd allan o oren jiwsi dros y cyfan, ac ychwanegu siwgwr brown neu mel arnyn nhw wedyn...
Yna dan y gril tan bod y banana's yn troi'n euraidd.
(Mae'n ffein gyda neu heb iogwrt groegaidd...)
Biwtiffwl
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."