Be sy'na i bwdin?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be sy'na i bwdin?

Postiogan Jeni Wine » Iau 14 Gor 2005 11:51 am

Nes i sylweddoli tra’n twrio drwy’r seiat ma nad oed na edefyn call ar bwdina, felly dyma fo i chi ylwch. Felly cyfrannwch eich rysaits, boed stici neu ffati-bwm-bwm, boed bonslyd, boed bwfflyd.

PWDIN HA-HA
Nes i hwn ‘son o blaen am fod gen i lond oergell o fefus rhy feddal.
Mae o fel blas y nefoedd ei hun.

850g o fafon, mefus, cyrainsh duon a chochion (gyda’r pwyslais ar y mafon)
8 tafell o fara gwyn da
3 llond llwy fwrdd o siwgr gwyn

Rho’r joli lot o ffrwytha mewn sosban ar wres isel nes bo’r cyrainsh yn dechra ffrwydro a sudd porffor secsi yn dechra cronni.

Ychwanega 2-3 llond llwy fwrdd o siwgr gwyn (blasa’r ffrwytha gynta i weld faint sy angan...gan gofio bod angen i’r pwdin fod yn gymharol siarp...ond nid nes bo dy lygaid di’n twitsio, de. Bydda’n gall am y peth.)

Tyd â’r cwbl i ferw a throi’r gwres i ffwrdd.

Torra’r crystia oddi ar y bara a thorri tri sowldiwr o bob tafell. Leinia powlen nobl efo’r bara, gan wneud yn siwr bod y darnau i gyd yn cyffwrdd fel nad oes na le i’r ffrwytha ddianc. Torra gylch o fara i waelod y bowlen.

Llenwa’r bowlen efo’r ffrwytha a’r sudd. Dylai’r gymysgedd ddod i’r top.

Rho sowldiwrs bara dros y top fel na ellir gweld y ffrwytha.

Rho blât fflat ar y top, a rwbath trwm i bwyso ar ei dop a rho’r peth yn yr oergell dros nos.

Y diwrnod canlynol, sleidia gyllall balet lawr yr ochra yn ofalus, rho blat ar y top a thro’r cwbwl drosodd, fel oedda chdi’n neud efo jeli ers talwm.

Gweina efo hufen dwbl hen-ffash allan o jwg hen-ffash.

Tria peidio fyta fo i gyd.

Delwedd
doedd f'un i ddim yn edrych cweit fel hyn, de.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Chwadan » Gwe 15 Gor 2005 10:05 am

Www :D Ma na un o'r rhain yn gegin ni ar hyn o bryd efo potyn o syrup yn pwyso ar ei ben, ac ma'r ffrwytha i gyd di dod o'r ardd. Iam iam!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Eben fardd » Iau 28 Gor 2005 9:33 am

PWDIN CIACHU.

1 spynj ( tua 600g)
1 Ciachu ( tua 400g, neu dau log 200g yr un)

Cam 1. Cymysgwch y cwbl lot gyda llwy bren
Cam 2. Bwytwch a mwynhewch.
COFIS DRE!
Eben fardd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 151
Ymunwyd: Llun 06 Hyd 2003 9:39 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Gwenllian » Iau 28 Gor 2005 9:24 pm

cofiwch- gormod o bwdin dagith gi!!
HOGAN DDRWG O LŶN
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenllian
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Mer 19 Mai 2004 9:07 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan lois-e » Mer 12 Hyd 2005 6:45 am

Sgan rhywun rysait ar gyfer "creme caramels"?
lois-e
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Llun 10 Hyd 2005 3:21 pm

Postiogan jinjar » Mer 12 Hyd 2005 12:15 pm

Sgan rhywun rysait ar gyfer "creme caramels"?


Duw jyst cwstard posh efo mwy o fanila nag arfer a siwgwr di losgi ar top ydio dwi'n meddwl.
Sa nain fi yn malu nain chdi yli!
jinjar
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Maw 13 Medi 2005 12:02 pm
Lleoliad: ymhell o bobman

Postiogan Manon » Iau 20 Hyd 2005 10:10 pm

Mmmm Jeni Wine... Da 'wan :)Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 20 Hyd 2005 10:54 pm

Dwi'n lecio cacan Eben. Debyg iawn i Gacen Siocled Jonsi.

Dwi'm fel arfar yn ffan o bwdins ond ma bananas wedi eu pobi yn y popty efo Rym a siwgr brown yn neis. Hufen ia Vanilla ar ben y cyfan wedyn. Ewadd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Miw » Llun 12 Rhag 2005 3:34 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Dwi'm fel arfar yn ffan o bwdins ond ma bananas wedi eu pobi yn y popty efo Rym a siwgr brown yn neis. Hufen ia Vanilla ar ben y cyfan wedyn. Ewadd.


Na, na, na. Dylid cael pwdinau di-alcohol yn unig. Mae'r sherry/rum/wisgi/baileys yn y gwydryn. Mae'r pwdin ar y blat. :)Iawn ia.
Miw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Sul 11 Rhag 2005 5:10 pm

Postiogan huwwaters » Llun 12 Rhag 2005 7:04 pm

jinjar a ddywedodd:Sgan rhywun rysait ar gyfer "creme caramels"?


Duw jyst cwstard posh efo mwy o fanila nag arfer a siwgwr di losgi ar top ydio dwi'n meddwl.


I wneud y caramel, dyma beth sydd ei angen.

Dwr yn berwi mewn sospan, wedyn tafla llond dwrn o siwgwr i fewn, a cmysgu. Cadw ar cmysgu am dipyn, a mi neith y dwr troi'n frown. Dyma i chi'r caramel. Os wnewch chi or wneud, chi'n gorffen i fyny gyda siwgwr solet sydd yr un fath a boiled sweet.

Gwna'r peth tro cyntaf gyda dipyn o ddwr, a llwyiad o siwgwr mewn sospan.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai