Be sy'na i bwdin?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sali_mali » Llun 13 Chw 2006 12:50 am

fflapjacs!! lwmp go lew o fenyn, siwgr brown, maple syrup a oats! tadaaaaa
Rhithffurf defnyddiwr
sali_mali
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 57
Ymunwyd: Maw 29 Tach 2005 1:42 am
Lleoliad: Caerdydd amser tymor!

Postiogan Cacamwri » Llun 13 Chw 2006 8:27 pm

Yn syml iawn, pot o iogwrt groegaidd naturiol, organig efo mel Cymreig wedi ei dywallt ar y top. Mmmmm :P
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Cacamwri » Llun 13 Chw 2006 8:29 pm

Neeeeeeu, hyd yn oed yn fwy syml...sgwp neu ddau i hufen ia, a basho pecyn o maltesers tan bod y cyfan yn fan, yna arllwys y cwbwl dros yr hufen ia!
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Chwadan » Llun 13 Chw 2006 8:30 pm

Cacamwri a ddywedodd:Yn syml iawn, pot o iogwrt groegaidd naturiol, organig efo mel Cymreig wedi ei dywallt ar y top. Mmmmm :P

Mm, dwi'n cael hwnna'n reit aml (ond efo mel rhad, nid Cymreig :(). Nes i'w drio fo efo triog melyn ond dio'm patsh ar y stwff gwenynaidd :D

Un arall: dwy danjarin a'r segments wedi eu torri a'u ffrwtian efo llwyaid go dda o driog melyn a sbeis o'ch dewis chi (fanila, sunsur, sinamon) am chydig funudau wedi eu tollti dros hufen ia neu iogyrt plaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Chwadan » Llun 13 Maw 2006 7:29 pm

Hwn yn debyg i'r uchod ond yn well - torri mango yn giwbiau (ma nhw'n hanner pris yn Tesco ar hyn o bryd i chi gal gwbod) rhoi mymryn o olew, joch go dda o sudd oren/afal pin, pinsiad o bupur du a pinsiad o jili fflecs mewn sosban a lluchio'r mango i mewn (peidiwch sblasho). Wedyn ei ferwi ffwl pelt (dwi'n ddiamynedd) i adael i'r dwr anweddu, wedyn troi'r gwres i lawr pan mae'r sos bron a charameleiddio er mwyn iddo gael troi'r mango yn frown neis. Wedyn ei fwyta efo iogyrt. Mm.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Cacamwri » Maw 05 Medi 2006 4:25 pm

Reit, dwi'n bwyta eitha od ar hyn o bryd...a dwnim os ydi hwn yn bwdin, ond mae o'n felys ta beth!

Banana ar dost gyda twist.

Dwy dafell o fara trwchus
Rhowch joch go dda o rym dros y bara
Sleiswch y banana, a'u gosod ar y ddwy dafell
Gwasgwch sudd allan o oren jiwsi dros y cyfan, ac ychwanegu siwgwr brown neu mel arnyn nhw wedyn...
Yna dan y gril tan bod y banana's yn troi'n euraidd.

(Mae'n ffein gyda neu heb iogwrt groegaidd...)

Biwtiffwl 8)
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Gerallt » Sad 10 Maw 2007 10:55 pm

Proffiterols hefo siocled tywyll wedi toddi dros y blydi thing i gyd! O a darnau banana wedi eu torin fan dros y top!

MMMMMMMMMMMMMMMMMMMMM
Rhithffurf defnyddiwr
Gerallt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 181
Ymunwyd: Sul 26 Meh 2005 6:58 pm
Lleoliad: woodvilla

Postiogan Cacamwri » Mer 20 Meh 2007 4:38 pm

Oes gen rhywun rysait cheescake neis? Nes i wneud un siocled gwyn a mafon penwythnos diwetha, ond roedd e braidd yn sickly.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan cochen » Iau 21 Meh 2007 10:18 am

Rhithffurf defnyddiwr
cochen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 1:51 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan Cacamwri » Gwe 22 Meh 2007 1:17 pm

Lysh, diolch. Y gamp fydd neud un sy'n edrych yn gampwaith fel yr un yn y llun. :rolio:
:winc:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai