Nes i sylweddoli tra’n twrio drwy’r seiat ma nad oed na edefyn call ar bwdina, felly dyma fo i chi ylwch. Felly cyfrannwch eich rysaits, boed stici neu ffati-bwm-bwm, boed bonslyd, boed bwfflyd.
PWDIN HA-HA
Nes i hwn ‘son o blaen am fod gen i lond oergell o fefus rhy feddal.
Mae o fel blas y nefoedd ei hun.
850g o fafon, mefus, cyrainsh duon a chochion (gyda’r pwyslais ar y mafon)
8 tafell o fara gwyn da
3 llond llwy fwrdd o siwgr gwyn
Rho’r joli lot o ffrwytha mewn sosban ar wres isel nes bo’r cyrainsh yn dechra ffrwydro a sudd porffor secsi yn dechra cronni.
Ychwanega 2-3 llond llwy fwrdd o siwgr gwyn (blasa’r ffrwytha gynta i weld faint sy angan...gan gofio bod angen i’r pwdin fod yn gymharol siarp...ond nid nes bo dy lygaid di’n twitsio, de. Bydda’n gall am y peth.)
Tyd â’r cwbl i ferw a throi’r gwres i ffwrdd.
Torra’r crystia oddi ar y bara a thorri tri sowldiwr o bob tafell. Leinia powlen nobl efo’r bara, gan wneud yn siwr bod y darnau i gyd yn cyffwrdd fel nad oes na le i’r ffrwytha ddianc. Torra gylch o fara i waelod y bowlen.
Llenwa’r bowlen efo’r ffrwytha a’r sudd. Dylai’r gymysgedd ddod i’r top.
Rho sowldiwrs bara dros y top fel na ellir gweld y ffrwytha.
Rho blât fflat ar y top, a rwbath trwm i bwyso ar ei dop a rho’r peth yn yr oergell dros nos.
Y diwrnod canlynol, sleidia gyllall balet lawr yr ochra yn ofalus, rho blat ar y top a thro’r cwbwl drosodd, fel oedda chdi’n neud efo jeli ers talwm.
Gweina efo hufen dwbl hen-ffash allan o jwg hen-ffash.
Tria peidio fyta fo i gyd.
doedd f'un i ddim yn edrych cweit fel hyn, de.