Reit, dwi'n bwyta eitha od ar hyn o bryd...a dwnim os ydi hwn yn bwdin, ond mae o'n felys ta beth!
Banana ar dost gyda twist.
Dwy dafell o fara trwchus
Rhowch joch go dda o rym dros y bara
Sleiswch y banana, a'u gosod ar y ddwy dafell
Gwasgwch sudd allan o oren jiwsi dros y cyfan, ac ychwanegu siwgwr brown neu mel arnyn nhw wedyn...
Yna dan y gril tan bod y banana's yn troi'n euraidd.
(Mae'n ffein gyda neu heb iogwrt groegaidd...)
Biwtiffwl