Siop dsips orau Cymru

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Siop dsips orau Cymru

Postiogan Dili Minllyn » Maw 16 Awst 2005 10:22 am

Pa un yw siop dsips orau Cymru? Pwy sy'n gwneud y sglodion mwya sblenydd a'r pysgod perffeithiaf?

Rhaid rhoi mensh i'r Albany Fish Bar yn y Rhath - sglods o safon (ond gan taw llysieuwr ydw i, alla i ddim sôn am ansawdd y pysgod na'r peis).
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 16 Awst 2005 10:51 am

Yr Fish Bar sydd ochr arall y ffordd i Somerfield yn Canton yw un da.
Y siop gore yn fy marn i yw'r un sydd yng nghanol Llanfair yr Muallt, fel arfer dwi'n stopio yno os dwi'n mynd adref i Gogledd Cymru ar y penwythnos.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 16 Awst 2005 11:02 am

Ydi, mae'r AFB ar Albany rd yn dda - ond mae "Yann's" ar Ffordd yr Eglwys Newydd yn neis iawn hefyd...neu o leia, mi roedd o'r tro dwytha es i yno...fisoedd lawer yn ôl!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Clebryn » Maw 16 Awst 2005 11:02 am

"Celtic" Aberaeron :)

(dim tuedd teuluol wrth gwrs!)
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Geraint » Maw 16 Awst 2005 11:06 am

Devonia – ar dop Ffordd Witchurch ger rowndabowt Gabalfa, Caerdydd, yn tip top.

Mae’r Tsipy ar Lon Glan Mor yn Hirael, Bangor, yn gwerthu Deep Fried Spam Burgers in Batter! Dim y ddigon dewr i drio un :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 16 Awst 2005 11:11 am

'Swn i ddim yn mynd ar gyfyl Devonia (arwahan i wibio heibio iddo yn y car ddwywaith y dydd!) - glywish i hanesion rhyfedd iawn am y lle tra o'n i'n y coleg! :ofn:

Golygwyd : Cerdda ddau ganllath lawr y ffordd i Yann's!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dwlwen » Maw 16 Awst 2005 11:12 am

Madrwyddygryf a ddywedodd:Yr Fish Bar sydd ochr arall y ffordd i Somerfield yn Canton yw un da.

Stavros - dyn bach ciwt, ond ma'r bwyd braidd rhy seimllyd...

Ma un da yn SanCler ger Caerfyrddin - mynnwch y chips i Lansteffan a'u bwyta nhw ar y traeth. mmmm.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Proffesor » Maw 16 Awst 2005 11:14 am

Yn ol un arolwg, siop tsips Allports Pwllheli ydy'r gora yn y DU. (:?)
If A is a success in life, then A equals x plus y plus z. Work is x; y is play; and z is keeping your mouth shut.
Einstein
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Postiogan Geraint » Maw 16 Awst 2005 11:14 am

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:'Swn i ddim yn mynd ar gyfyl Devonia (arwahan i wibio heibio iddo yn y car ddwywaith y dydd!) - glywish i hanesion rhyfedd iawn am y lle tra o'n i'n y coleg! :ofn:



BE? :?

No we yn y byd yw Stavros Fish Bar y gore yn y wlad.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan joni » Maw 16 Awst 2005 11:18 am

Y Dolphin, Aberystwyth - roedd Miss Wales 2005 arfer gweithio yno!
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron