Siop dsips orau Cymru

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Gwe 19 Awst 2005 11:12 am

O'n i reit amheus pan ddwedodd y gwr ei fod yn mynd i ryw gyfarfod gyda'i fêt "ac ella awn ni am ryw jipsan wedyn" :?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan TeleriTylwythTeg » Gwe 19 Awst 2005 11:28 am

y spinnaker yn abersoch di'r chips gora ges i erioed!! hollol wych!! Mooor flasus
Paratown am Chwyldro Achos Ni Yw y Byd
Rhithffurf defnyddiwr
TeleriTylwythTeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 289
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 1:50 pm
Lleoliad: Ar Ben y Byd

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 23 Awst 2005 12:58 pm

Ma'i digon anodd dweud beth yw siop chips gore town, heb feddwl am un ore Cymru. Ffaaaaaaaaaaaac. Chaaaaaaaaaaaaaaaaps yw chips gyda llaw. Gall rhywun ddechre edevyn "Rissoles gore Cymru" plis? 'Na lle ma cystadleuaeth! Ond cyn mynd ymhellach, sdim un siop chips 'da arwydd yn well na un Tremadog sy'n dweud...."NIONOD WEDI MEDDWI".

khmer hun a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
krustysnaks a ddywedodd:Onid dyna'r enw y rhoddodd TH P-W ar siop jips, neu ei gefnder RWP?


Pam oedd TH P-W yn galw'i gefnder yn Dafarn Datws?


Da, Sian. Ti hyd yn oed yn rhoi gwersi gloywi iaith tra chynnil yn dy ymatebion ffraeth.

'Siop chips' sen i'n weud, wrth Saunders a TH. Fi'n amheus o 'siop jips' 'fyd. Ryw arlliw o T Llew Jones yn ailddrafftio Tan ar y Comin arno fe.
:lol: :lol: :lol:

O'n i arfer meddwl taw "lwc ceffyl chips" odd 'nhad arfer dweud tan iddo fe ddweud y stori tu ol i'r dywediad am lwc ceffyl 'jips'.

sian a ddywedodd:O'n i reit amheus pan ddwedodd y gwr ei fod yn mynd i ryw gyfarfod gyda'i fêt "ac ella awn ni am ryw jipsan wedyn" :?


Odyw e'n mynd mas am Chinkies 'da'u fets 'fyd? :o

"Weles i dy wr di gyne yn whilbero sached o dato a drwmed o oil. Chips fydd hi 'chan. CHIPS!"

Diolch yn fawr. Wir, ma'i di bod yn bleser.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Dai dom da » Maw 23 Awst 2005 1:50 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Ma'i digon anodd dweud beth yw siop chips gore town, heb feddwl am un ore Cymru. Ffaaaaaaaaaaaac. Chaaaaaaaaaaaaaaaaps yw chips gyda llaw. Gall rhywun ddechre edevyn "Rissoles gore Cymru" plis? 'Na lle ma cystadleuaeth! Ond cyn mynd ymhellach, sdim un siop chips 'da arwydd yn well na un Tremadog sy'n dweud...."NIONOD WEDI MEDDWI".



Hehe, weles i hwnna ar y ffordd nol or shteddfod - classic whareteg. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan aberdarren » Maw 23 Awst 2005 6:56 pm

Cacamwri a ddywedodd:Ei bobi fo yw'r ffordd gore o bell ffordd, tan bod ei groen o'n rhychiog ac yn caled, a'u du fewn o'n fflwffi neis :P


Y croen yw'r rhan fwyaf blasus yn fy mharn i... llawn fitaminau.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan blanced_oren » Gwe 17 Tach 2006 8:39 pm

Yng Nghaerdydd: Pete's Plaice, Treganna. Yn bendant NID Stavros, Cowbridge Road. Lico'r pineapple fritters yn y lle ar gornel Clive Road a Cowbridge Road hefyd.

Fues i mewn lle lyfli ym Machynlleth sy wedi enill gwobr...ar y prif ffordd sy'n mynd tuag at y Drenewydd.
blanced_oren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 24 Chw 2005 6:21 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 17 Tach 2006 10:04 pm

Fe gaoedd siop Chips gore Cymru rhyw 8 mlynedd yn ol. Siop Bernard Parsons, Abercraf. Ennillodd e rhyw wobr nol yn '93, fi'n siwr fi'n cofio en gal i ddangos ar S4C.
Dim ffriars trydanol - roedd y lle i gyd yn rhedeg ar glo. Tr'eni mawr rhoiodd e'r gore iddi nol yn 1998. :crio:

Yng Nghaerdydd, o ni wastod yn lico Woody Fish Bar ar 'Hewl Woodville yn Cathays i gweud y gwir. Fi'n gwbod lle i fynd ar ol bod mas am sesh yw e, ond oedd y chips yn spot on.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Oscar Goldman » Sad 18 Tach 2006 2:13 pm

Chips - Merrie Fryer, Llanfair ym Muallt
Pysgodyn - Codfather, Cowbridge Rd, Caerdydd
Oscar Goldman

Steve Austin:gofodwr. Dyn sy' prin yn fyw. Gallwn ei ail-adeiladu. Mae gyda ni'r dechnoleg. Gallwn ei wneud yn well nag yr oedd o'r blaen. Gwell....cryfach....cyflymach!
Rhithffurf defnyddiwr
Oscar Goldman
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Sad 28 Hyd 2006 8:29 am
Lleoliad: Ty crand gyda garej dwbl a privet hedge yn un o faestrefi gogledd L.A.

Postiogan Ramirez » Sad 18 Tach 2006 4:14 pm

TeleriTylwythTeg a ddywedodd:y spinnaker yn abersoch di'r chips gora ges i erioed!! hollol wych!! Mooor flasus


Nonsens.

Ew mi geshi benfras a tships gwerth chweil yn Cemaes 'chydig wsnosa'n ol. Un o'r petha gora am sir Fon, yn sicr.

Allports Pwllheli braidd yn crap, ond ma Arvonia'n o lew.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Jon O'Theus » Sad 18 Tach 2006 6:14 pm

'Chippy on the Bridge' yn Ely (dros ffordd i'r Bridge Inn) ydi'r neisia i mi gael yng Nghaerdydd o bell ffordd. a pobol glen yn gweithio yna fyd!
lager lout - di bod erioed - yn player da
Rhithffurf defnyddiwr
Jon O'Theus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Iau 15 Ebr 2004 10:08 am
Lleoliad: caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron