Wir nawr, ai fi yw'r unig un sydd ddim yn ffan o tships?!!
Fi. Petae 'na ddewis rhwng tatws stwnsh a tsips, tatws stwnsh fydda hi bob tro... yn enwedig os ydi'r tatws stwnsh yn datws stwnsh 'r ysgol.
Ond... dwi'n meddwl fod yr ysgol wedi rhoi fyny ar wneud tatws yno 'wan achos mai dim ond fi sy'n 'u bwyta nhw. O wel.
If A is a success in life, then A equals x plus y plus z. Work is x; y is play; and z is keeping your mouth shut.
Einstein
Nid oes cystadleuaeth. Ni all holl Fish Bars Caerdydd na'r un lle arall gymharu.
Mabinogion Pesda yn hawdd yw siop sglod a sgod gorau'r wlad, hanes a'r bydysawd (yn cynnwys Plwto). Swmpus sglodion seimllyd a pizzas y byddai Ghandi'n ymladd at angau amdanynt.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?" "Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"
Chips neisa dwi di cal yw yn Dinas, ar bwys Abergwaun. Sgod and Sglod yn Llandudoch. Ond ges i chips a chicken ffein iawn yn Tremadog ar y ffordd nol o'r eisteddfod hefyd.
Am jips, does na run siop yn curo'r Blac Boy yn Gnarfon. Ma'i cod nhw'n dda hefyd. A pys slwtj os ydech chi'n hoffi'r math yna o beth. Biti am y siefins panas.
Cytunno i'r 'cafn' am y chips Mmmmmmmmm OND dwi hefyd yn ffan mawr o'r siafins panas a peidwch a'n nechra fi ar y pei steak ac ale! Mmmaaae fyyyy kkkey boarrrrd wediiii sticccccio dwwiiin ggglafffoerriooo cymmmaaainnt!
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.