Tudalen 6 o 7

PostioPostiwyd: Sul 19 Tach 2006 8:37 pm
gan Dili Minllyn
Jon O'Theus a ddywedodd:'Chippy on the Bridge' yn Ely.

Diolch am yr awgrym. Mae honna wastad yn edrych yn dda o'r tu fas. Bydd rhaid i mi bigo i mewn. Dwi'n hoff iawn o'r enw diffwdan o ddisgrifiadol, hefyd.

arvonia

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 6:48 pm
gan Gerbo
Arvonia ym mhwllheli yw'r gorau. mae'n bwyta gweddill y siopau i frecwest.

:D :D :D

PostioPostiwyd: Iau 30 Tach 2006 11:03 pm
gan Cartwn 'ead
Yn fy marn i 'does na run siop yn gyson dda ond mae na rai sydd yn gyson ddrwg. EE: yr un yn Bontnewydd ger Caernarfon (ers i'r perchnogion newydd gymryd drosodd). Sticiwch at reis bois!

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 1:06 pm
gan merch ddrwg
MA Siop tsips yn Tremadog reit neis! mmm dwi isio bwyd wan! :D
cytuno bod yr un yn Bontnewydd ger Caernarfon wedi mynd yn wael iawn ers y perchnogion newydd gymryd trosodd!

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 4:14 pm
gan Ger27
Rhyw 8-10 mlynedd yn ol, pan oedd Chris 'in charge', doedd na nunlla i guro'r Golden Cod ym Montnewydd. Dwi'n siwr iddo guro siop jips gora Cymru unwaith (roedden nhw hefyd yn gwneud pizzas da ar y pryd).

Ond rwan. Shambles llwyr!
Does gen i'm byd yn erbyn y ffaith mai tramorwyr sy'n rhedeg y lle ond mae nw'n trio gwneud llawer gormod ac o be dwi wedi' glywed mae nw i gyd yn rybish. Ar hyn o bryd, mae'r lle yn siop jips, lle pizza, indian a keebab. Jack of all trades...

Dwi ond 'di bod yna ddwy waith dan y perchnogion newydd. Yr ail waith nes i ond cael chip-bab (gan feddwl bod hwnna'n beth ddigon hawdd i 'neud) a doedd y chips ddim wedi cwcio trwyddo. Nes i gael un tamaid a rhoi'r gweddill i'r ci - nath o ddim bwyta'r peth chwaith.

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 4:35 pm
gan xGeshaPwy?!x
seren a ddywedodd:Ma'r chips gora yng Nghymru ar gael yn Sglod a Chod Tremadog. :D
....Clywch clywch!! :P

Ia wif

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 6:01 pm
gan Gerbo
Ia, rhen chris. Mynd yna arol neud Judo yng nghernarfon. Odd chicken breast a chips yn wych! mae'r siop tsips yn nhremadog yn dda fyd, er - mae pawb yn cael 'off days' fyd![/quote]

PostioPostiwyd: Iau 07 Rhag 2006 11:51 am
gan Dr Sleim
Y chippy ore yng Nghymru yw.....

M.A fish bar yn Grangetown, Mae'n official!! (Dwi'n gwybod achos dwi di byta lot o chips. Dwi'n pwyso tunnell chi'n gwybod, a'n chwysu chip fat! Ffyc ma seis arna'i)

Hefyd, ma gwobrau arbenig yn mynd i'r un posh yn Llanbedr PS, Cardiff Arms (sy'n Aberteifi?!!) a'r un ar y sgwâr yn Rhydaman

Sdim chips neis i gael yn y gogledd - FFAITH!

PostioPostiwyd: Iau 07 Rhag 2006 12:05 pm
gan Mwnci Banana Brown
Dr Sleim a ddywedodd:Cardiff Arms (sy'n Aberteifi?!!)

Cardigan Arms ti'n meddwl- Y chippy gore. Ond yr un yn Llandudoch yw'r gore am cod.

PostioPostiwyd: Iau 07 Rhag 2006 12:20 pm
gan Geraint
Ges i y sosej, chips a curry sauce neisa dwi rioed di cael yn y Central Chippy, Aberystwyth, penwythnos dwetha.

Mae yna chippy yn Llandudno Junction rhywle sydd yn anhygoel am bysgod - mae yna ddewis eang o bysgod, pethau angyhffredin mewn chippy - fel monkfish, sea bass ayb, i gyd wedi batro i berffeithrwydd.