Tafarn Waethaf Cymru

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be 'di gwaetha?

Tafarn fudur, cachlyd, rhad
15
22%
Bar swanc
18
27%
Clybiau nos
14
21%
Clybiau rygbi/cymdeithasol
14
21%
Tafarn yn Ysbyty Ifan (os fysa 'na un)
6
9%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 67

Tafarn Waethaf Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 24 Awst 2005 1:37 pm

:D
(dw i'n giglo i fy hun am y teitl. sori)


Mae 'na sgwrs am y dafarn orau yma. Llai o fod yn optimistaidd rwan. Beth am enwi'r 3 tafarn neu far gwaethaf sy gynnoch chi'n bersonol?

Mae 'na ddigon rhai crap, yn does? Dyma rhai o rhai gwaetha fi ('run mewn ordor penodol):

1. Is It?, Caerdydd

Dwi'n CASAU y lle yma. Mae o mor ffug a trendi a drud. Ti'n teimlo fatha lwsar amhwysig ac allan ohoni os ti'n ista rownd y cefn neu fyny grisha a os ti'n y blaen mae o unai'n orlawn a chwyslyd neu heb unrhyw fath o awyrgylch.

2. Academi, Aberystwyth

Dw i'm yn licio fo - capel yn troi'n far? Iw. Ma'n hyd yn oed edrych fel capal myn uffarn i.

3. Pen-y-brenin, Bethesda

Ich. Dw i'n CARU tafarndai sy'n dymps ... ond mae fama'n cymryd y piss.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 24 Awst 2005 1:47 pm

1. Y Woodville, Caerdydd

Y math o le sy'n dangos gem Lloegr cyn gem Cymru pan mae'r ddwy wlad yn chwarae.

2. Y Woodbine, y Coed Duon

Pan aeth criw ohonon ni 'na noswyl Nadolig dwetha ond un, fe wrthodon nhw adael y merched mewn. Wir yr.

3. Y Lamb and Flag, Casnewydd

Mae'r lle'n neud i fi gachu brics bob tro fydda' i'n mynd 'na. Llawn tashes bach crap a chrysau gwyn.

O ran Is It?, y peth gwaethaf i fi yw'r ffaith eu bod nhw'n chwarae'r gerddoriaeth mor gythrelig o uchel bod dim modd cael sgwrs gall, felly'r unig beth i'w wneud yw yfed. :x
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan garynysmon » Mer 24 Awst 2005 1:57 pm

Bar Ffriddoedd Bangor -
Lle iawn os ydach chi isho stiwdants Saesneg neuaddau Ffriddoedd sbio'n wirion arnoch chi am siarad Cymraeg, hoff o weld crysau Peldroed Lloegr ymhobman, a stiwdants swnllyd yn neud twrw. Llawn lle o bobol 'sbiwch arna'i'. Bechod a deud y gwir, achos mae'r prisiau'n gallu bod yn rhesymol iawn ac offers da yna.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan joni » Mer 24 Awst 2005 1:57 pm

1. Academi. Aberystwyth
Ma fe jyst yn crap. Naill ai'n orlawn lle ma fe'n afiach neu yn wag lle ti'n teimlo fod pawb yn edrych arno ti. A'r ma'r darn ar yr ochr yn edrych fel youth club.

2. Unrhyw Wetherspoon yn unman.
Cachlefydd di-awyrgylch yw nhw i gyd. Special mensh i Wetherspoon Caernarfon ac Aberystwyth.

3. Harley's, Aberystwyth ar nos sadwrn. Sai'n meindio'r lle gan amlaf, ond ma Scallies Aber i gyd yn cwrdd yma ar nos sadwrn i greu awyrgylch gach.

(Roedd hi'n anodd i mi feddwl am 3 dafarn gwael. Sai'n meindio unrhyw dafarn i fod yn onest :wps: )
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan garynysmon » Mer 24 Awst 2005 1:59 pm

joni a ddywedodd:(Roedd hi'n anodd i mi feddwl am 3 dafarn gwael. Sai'n meindio unrhyw dafarn i fod yn onest :wps: )


Ditto. Dim ond un oddwn i'n medru meddwl amdan :(
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan khmer hun » Mer 24 Awst 2005 2:02 pm

Y gwaetha' yng Nghymru gyfan, heb os, yw tafarn Rhyd Ddu.



wancar iaith alert: ti'n fodlon treiglo'r teitl plis 'i Tafarn Waethaf'? sori
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Sili » Mer 24 Awst 2005 2:15 pm

Wetherspoons Caernarfon - dim digon o le yma, gormod o bobl a sgena nhw ddim Jack Daniels ar gael yno fyth!

Anglesey Caernarfon - rhesymau hollol bersonnol. Gesi'n ID'io tro dwytha oni yno y noson i mi anghofio walet fi adra, ac odd y barmaid yn hen beth sych, yn hollol anghwrtais ac yn cau coelio fi pan udis i mod i'n 18. Grr... Fel arall mai'n le lyfli am beint!

Boathouse Pwllheli - atgofion o dreulio pnawniau rhydd pan oni'n 6ed yn wastio amser yma'n bored gachu (un yn benodol pan nesi overdosio ar caffin, rhedeg allan i ganol lon a gneud rhyw ddawns rhyfedd o flaen checkout Woolworths :wps: )ac yn tagu ar yr ogla mwg cryf sydd yno fyth a beunydd. Ychapych.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Ger Rhys » Mer 24 Awst 2005 2:17 pm

Sgenai ddim fymryn o fynnedd efo'r llefydd sy'n trio fod yn posh. Well o bell ffordd yw tafarn bach clyd sy'n anghyfreithlon o lawn, mwg yn llenwi'r lle a peint o Guinness da.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Llun 20 Meh 2005 12:59 pm
Lleoliad: Ar daith rhwng Dolgellau ac Aber

Postiogan Ray Diota » Mer 24 Awst 2005 2:36 pm

Central Bar (Wetherspoons), Caerdydd

Ffacin non-smoking!? Ffac off. Ac odd e'n shit ta beth, ond nawr allai'm hydnoed popo mewn na am tripl rhad i ddechre'r noson, achos gewch chi'm cal mwgyn da'ch drinc. Wanc.

Shit... 'na ni. Diwedd y rhestr. Ma raid fi weud, sai'n hoff iawn o bobl yn cwyno am lle ma nhw'n yfed

"Sai'n mynd fynna, ma fe'n shit."

Pyb yw e. Ma'n gwerthu booze. Der mewn ne ffac off.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Geraint Edwards » Mer 24 Awst 2005 2:46 pm

Woodville, Gassy Jacks, The End - am yr un rhesymau y mae GDG di restru am y Woodville. "Student pybs" hollol digymeriad, hollol Seisnigaidd. Bw! :drwg:

Is It? Caerdydd - eto, am resymau tebyg i HoRach.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron