Tafarn Waethaf Cymru

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be 'di gwaetha?

Tafarn fudur, cachlyd, rhad
15
22%
Bar swanc
18
27%
Clybiau nos
14
21%
Clybiau rygbi/cymdeithasol
14
21%
Tafarn yn Ysbyty Ifan (os fysa 'na un)
6
9%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 67

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 14 Mai 2007 3:54 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dyma un fydd yn amhoblogaidd iawn fama: Y Queen's Vaults yng Nghaerdydd - wirioneddol gas gen i'r lle ac wn i ddim pam. Mai'n ffycin ddrud am un peth a 'sdim byd sbeshal am y lle o gwbl.


Na, cytuno gyda ti i'r carn. Gallwn golli gwaed o blegid dy ddatganiad.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan CORRACH » Llun 14 Mai 2007 3:55 pm

Mae diwylliant rhai tafarnau wedi newid ers y gwaharddiad smygu.

Cwps yn Aberystwyth yn un - jyst ddim be oedd o, falle cymaint i wneud hefo newid perchnogaeth.
dwi ddim yn licio chain-pybs rhyw lawar os na dwi'n gwbod mod i am basio drwodd reit handi yn ystod y dydd. gas gen i lefydd felly pan fo nhw'n llawn gyda'r nos, enwedig Lloyd's Bar, Walkabout, Varsity a'r math yna o le.

Fy hoff dafarn i ar hyn o bryd ydi Scholars Aberystwyth am y ffaith syml bod peint hyfryd o Heineken i'w gael yno ar tap. Niam niam.

Wedi dweud hyn, dwi ar ddirwest ers nos Sul dwytha, ac am aros felly cyn hired a fedra i, felly hishd da chi.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Postiogan Chwadan » Llun 14 Mai 2007 5:05 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dyma un fydd yn amhoblogaidd iawn fama: Y Queen's Vaults yng Nghaerdydd - wirioneddol gas gen i'r lle ac wn i ddim pam. Mai'n ffycin ddrud am un peth a 'sdim byd sbeshal am y lle o gwbl.


Na, cytuno gyda ti i'r carn. Gallwn golli gwaed o blegid dy ddatganiad.

Da chi'n rong. O dafarndai canol Caerdydd, City Arms di'r crapa o bell ffordd. Casau'r lle.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dili Minllyn » Maw 15 Mai 2007 10:42 am

Y gwaethaf yng Nghaerdydd? Glo, Churchill Way: gorffasiynol ac oeraidd o ddi-enaid.

Y gorau? Goat Major: cyffyrddus, clyd, di-ffwdan. Mae'r Albany'r un fath.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Reufeistr » Maw 15 Mai 2007 11:32 am

CORRACH a ddywedodd:Cwps yn Aberystwyth yn un - jyst ddim be oedd o, falle cymaint i wneud hefo newid perchnogaeth.


Ffocing pyb hogia rygbi dio wan. Diwylliedig dros ben. :x
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan Wierdo » Maw 15 Mai 2007 11:52 am

Reufeistr a ddywedodd:
CORRACH a ddywedodd:Cwps yn Aberystwyth yn un - jyst ddim be oedd o, falle cymaint i wneud hefo newid perchnogaeth.


Ffocing pyb hogia rygbi dio wan. Diwylliedig dros ben. :x


Dwi'n licio fo. Ma'r bobl sydd yn rhedeg y lle rwan yn bobl lyfli. Denin treulio ambell ddwrnod na yn siarad efo nw. Mbach yn ddrud. Dwim yn hoffi talu dros £2.50 am fy mheint ond ma bob man yn ddrytach nag oedden nw dyddia yma dydi
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Reufeistr » Maw 15 Mai 2007 12:01 pm

Ai i fod yn deg, mae'r boi na'n foi neis iawn. Jysd, wel, traddodiadwr dwi de.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan Rhodri » Maw 15 Mai 2007 12:32 pm

Tafarn yn Ysbyty Ifan (os fysa 'na un)


Be wyst ti? Ella y buasai tafarn yn 'Sbyty y peth godidocaf y gwelist ti erioed. Mi oedd na ddwy ers talwm - Pen Bont a Ty'n Porth. Ma gin Ty'n Porth leisans yn dal, felly er mwyn cadw'r drwydded ma Ger yn agor noson flwyddyn newydd a noson sioe, i bwy bynnag sy'n ddigon dewr / meddw i fynd yno. Dim cwrw, dim ond wisgi mewn mygs. Fues i rioed chwaith.

Dwi am agor tafarn yno rwbryd, ond ti'n banned, so fyddi di byth yn gwbod. heh.
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Postiogan S.W. » Sad 19 Mai 2007 3:26 pm

Sori fod yn pedantic ond dwi'n bored yn gwilio'r Cup Final

CORRACH a ddywedodd:dwi ddim yn licio chain-pybs rhyw lawar

Fy hoff dafarn i ar hyn o bryd ydi Scholars Aberystwyth am y ffaith syml bod peint hyfryd o Heineken i'w gael yno ar tap.



Sy'n "Chain-pyb" - rhan o'r un gwmni sydd bia Harleys a un arall (ellaim cofio pryn) - Inn Keepers Wales.

8)

Gas gennai'r Kings Arms sydd newydd ail agor yn Ninbych. Twll o le. Fuodd o'n ddadfail ers blynyddoedd. Mi agorodd rhyw 4 mis yn nol. Mi warion nhw ffortiwn ar gadeiriau newydd modern 'flashy' ond does dim digon o bres ganddyn nhw yn nol y golwg i beintio'r tu allan. Mae'n edrych fel eu bod nhw di peintio fo hefo pot o Dulux One Coat o siop Mr Bevans.

Oedd o'n lle rough cyn iddo gau lawr a mae'n edrych fel bod yr hen clientel wedi dod allan o'r draeiai ers iddo ail agor.

A mae'n debyg bod criw o Gymru wedi cael eu taflu allan o'r dafarn am siarad Cymraeg yn ddiweddar gan y perchenog.

Tosar

O a dwi'm yn licio'r Hand yn Dinbych chwaith. O'r tu allan mae'n edrych yn weddol ond ar ol cerdded fewn mae o fel bod rhywun di dwyn y tu fewn i gyd. Mae ne far, mae ne waliau ond dim lot mwy nag hynny.

Yr Hen Pot Black (Dejavu erbyn hyn) yn rybish hefyd er bod y merched tu ol y bar yn smart sy'n help.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan dave drych » Sul 20 Mai 2007 1:58 pm

S.W. a ddywedodd:O a dwi'm yn licio'r Hand yn Dinbych chwaith. O'r tu allan mae'n edrych yn weddol ond ar ol cerdded fewn mae o fel bod rhywun di dwyn y tu fewn i gyd. Mae ne far, mae ne waliau ond dim lot mwy nag hynny.


Guaranteed bod merched tew eitha ifanc efo'i prams yn eistedd ar y byrddau tu allan ar ddiwrnod o heulwen. Guaranteed.

Yr Hen Pot Black (Dejavu erbyn hyn) yn rybish hefyd er bod y merched tu ol y bar yn smart sy'n help.


Natho'm llosgi lawr tua wynthnos yn dôl? Ffrind imi yn deud ei fod o di mynd ar dan, ond dwi heb fod yn yr ardal i wybod yn iawn.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai