Sori fod yn pedantic ond dwi'n bored yn gwilio'r Cup Final
CORRACH a ddywedodd:dwi ddim yn licio chain-pybs rhyw lawar
Fy hoff dafarn i ar hyn o bryd ydi Scholars Aberystwyth am y ffaith syml bod peint hyfryd o Heineken i'w gael yno ar tap.
Sy'n "Chain-pyb" - rhan o'r un gwmni sydd bia Harleys a un arall (ellaim cofio pryn) - Inn Keepers Wales.
Gas gennai'r Kings Arms sydd newydd ail agor yn Ninbych. Twll o le. Fuodd o'n ddadfail ers blynyddoedd. Mi agorodd rhyw 4 mis yn nol. Mi warion nhw ffortiwn ar gadeiriau newydd modern 'flashy' ond does dim digon o bres ganddyn nhw yn nol y golwg i beintio'r tu allan. Mae'n edrych fel eu bod nhw di peintio fo hefo pot o Dulux One Coat o siop Mr Bevans.
Oedd o'n lle rough cyn iddo gau lawr a mae'n edrych fel bod yr hen clientel wedi dod allan o'r draeiai ers iddo ail agor.
A mae'n debyg bod criw o Gymru wedi cael eu taflu allan o'r dafarn am siarad Cymraeg yn ddiweddar gan y perchenog.
Tosar
O a dwi'm yn licio'r Hand yn Dinbych chwaith. O'r tu allan mae'n edrych yn weddol ond ar ol cerdded fewn mae o fel bod rhywun di dwyn y tu fewn i gyd. Mae ne far, mae ne waliau ond dim lot mwy nag hynny.
Yr Hen Pot Black (Dejavu erbyn hyn) yn rybish hefyd er bod y merched tu ol y bar yn smart sy'n help.