Byddwch yn saff wrth hel a byta pysgod cregyn gwyllt. Dyma ychydig o dips:
Peidiwch a hel cregyn gleision sydd ddim wedi cau yn dynn.
Ll'neuwch y cregyn yn dda cyn eu coginio. Fydda i'n defnyddio brwsh gwinedd a dwr y mor i'w ll'nau.
Os oes yna lot o sdwff gwyrdd ar y gragen, peidiwch a'i goginio.
Mae achosion o wenwyno gan gregyn ffresh yn anarferol iawn iawn, ond mae'n gallu bod yn ddifrifol pan mae'n digwydd*. Mae pysgod cregyn yn cael eu profi yn rheolaidd am docsinau mewn ardaloedd ble maent yn cael eu casglu neu eu ffermio yn fasnachol (e.e. y Fenai). Os bydd problem, gallwch fod yn sicr y bydd ar dudalen flaen Tail y Post y bore wedyn. Mae'n syniad da taro golwg ar wefan yr
Asiantaeth Safonau Bwyd cyn cychwyn am y traeth.
Ychydig bach ar y tro! - Dwsin yn hen ddigon.
Mae sdowt wystrys Marstons i'w cael yn Aldi Bangor.
*Anarferol iawn iawn iawn iawn iawn.