Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2005 10:29 am
gan Llefenni
DO84 a ddywedodd:Dwi'n meddwl y byswn i'n bwyta mwy o bysgod pe bai'r dewis yn well mewn bwytai. Gan amlaf salmon neu prawns di'r opsiwn a dwi'n eu casau! :drwg:


Os gei di byth gyfle - tyd i Scallops yn bae Caerdydd - rioed wedi gweld gymnt o ddewis yn fy myw :ofn: swperb hefyd :D

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2005 10:35 am
gan DO84
tro nesa dwi'n Gaerdydd mi wnai fynd am dro yno!

PostioPostiwyd: Sul 10 Medi 2006 12:20 am
gan 7ennyn
Cregin gleision Llanddwyn, yn gynharach heno. Hefo potel o stowt wystrys. Iym iym!

Delwedd

PostioPostiwyd: Gwe 15 Medi 2006 10:16 pm
gan 7ennyn
Byddwch yn saff wrth hel a byta pysgod cregyn gwyllt. Dyma ychydig o dips:

Peidiwch a hel cregyn gleision sydd ddim wedi cau yn dynn.

Ll'neuwch y cregyn yn dda cyn eu coginio. Fydda i'n defnyddio brwsh gwinedd a dwr y mor i'w ll'nau.

Os oes yna lot o sdwff gwyrdd ar y gragen, peidiwch a'i goginio.

Mae achosion o wenwyno gan gregyn ffresh yn anarferol iawn iawn, ond mae'n gallu bod yn ddifrifol pan mae'n digwydd*. Mae pysgod cregyn yn cael eu profi yn rheolaidd am docsinau mewn ardaloedd ble maent yn cael eu casglu neu eu ffermio yn fasnachol (e.e. y Fenai). Os bydd problem, gallwch fod yn sicr y bydd ar dudalen flaen Tail y Post y bore wedyn. Mae'n syniad da taro golwg ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn cychwyn am y traeth.

Ychydig bach ar y tro! - Dwsin yn hen ddigon.

Mae sdowt wystrys Marstons i'w cael yn Aldi Bangor.


*Anarferol iawn iawn iawn iawn iawn.