Yn eisiau - Rysait Plantain!

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yn eisiau - Rysait Plantain!

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 29 Ion 2006 6:13 pm

Mi gesh i foment wan yn y siop lysia ddoe a phrynu 4 plantain (bananas gwyrdd ar gyfer cwcio).

Rwan ma nhw gin i, sgen i'm clem be i neud efo nhw. Dwi wedi cael nhw mewn cyri o'r blaen, a debyg dyna wna i drio neud, ond oes gan unrhywun tips ar sut i gwcio nhw'n iawn?

Oes angen berwi nhw gynta? Neu jest ffrio nhw fatha tasa nhw'n datws ne rwbath?

Diolch yn dalpe
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan caws_llyffant » Llun 30 Ion 2006 3:35 pm

Wel , beth am fynd yr holl ffordd , Rhodri ?

Dyma be mae nhw'n gwneud yn yr ynysoedd y M
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 30 Ion 2006 7:43 pm

Sleisia'r plantain, pupur coch, puppur gwyrdd, tomatos bach (yn hanner), winws coch a corrgettes. Rho nhw mewn trei a cynna'r ffwrn. Tafla llwyth o olew olewydd ar ei ben a tafla llond dwrn o 'cloves' garlleg miwn 'fyd. Gwres canolog.

Gad e. a cer am smoc a cwpwl o gans o Orangeeboom.

Dylse fod yn barod mewn hanner awr. Delfrydol gyda cyw iar neu selsig.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Chwadan » Llun 30 Ion 2006 7:48 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Sleisia'r plantain, pupur coch, puppur gwyrdd, tomatos bach (yn hanner), winws coch a corrgettes. Rho nhw mewn trei a cynna'r ffwrn. Tafla llwyth o olew olewydd ar ei ben a tafla llond dwrn o 'cloves' garlleg miwn 'fyd. Gwres canolog.

Gad e. a cer am smoc a cwpwl o gans o Orangeeboom.

Dylse fod yn barod mewn hanner awr. Delfrydol gyda cyw iar neu selsig.

Ew, neis. Sut flas sydd ar plantains ta?

Pan on i a fy nghariad mewn ryw siop gornel yn Barcelona ha dwytha nathon ni weld bananas hiwj a meddwl sa ni'n eu prynu nhw achos bo nhw'n ddoniol. Oeddan ni'n embarasd iawn pan nath gwr y siop egluro mewn Saesneg perffaith mai nid bananas oeddan nhw a bo ti fod i goginio efo nhw. Mawr yw fy nhwpdra :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan caws_llyffant » Llun 30 Ion 2006 8:26 pm

Wel , mae nhw'n coginio gwialen gwr hefyd yn y M
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan AFFync » Maw 31 Ion 2006 3:50 pm

fried plantain, rice & peas...


BWYD - BBC

Dyma un syml iawn...

FRIED PLANTAIN
2 Pantains
Oil for frying
Cut plantains into about 1/2 inch slices. Fry for severalminutes in hot oil, until slices begin to turn golden (not toodark), and they are beginning to get tender. They do not need tobe really soft at this point.
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai