Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Newydd rostio coes cig dafad am bedair awr o dan ffoil er mwyn ei gadw'n llaith. Rhoies i arlleg a rhosmari o dan y croen, a chymysgedd o halen, pupur ac olew olewydd drosto fe.
Wedyn tato rhost, panas, moron, brocoli a grefi gyda lot o win coch. Sori i frolio, ond roedd e'n lysh.
Lle wyt ti'n prynu'r cig yng Nghaerdydd? (Dyw'r ddolen uchod ddim yn gweithio mwyach.) Fi ishe treial hwn.