Gig gwedder

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gig gwedder

Postiogan Sleepflower » Mer 02 Ebr 2008 2:32 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Newydd rostio coes cig dafad am bedair awr o dan ffoil er mwyn ei gadw'n llaith. Rhoies i arlleg a rhosmari o dan y croen, a chymysgedd o halen, pupur ac olew olewydd drosto fe.

Wedyn tato rhost, panas, moron, brocoli a grefi gyda lot o win coch. Sori i frolio, ond roedd e'n lysh.


Lle wyt ti'n prynu'r cig yng Nghaerdydd? (Dyw'r ddolen uchod ddim yn gweithio mwyach.) Fi ishe treial hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gig gwedder

Postiogan Llefenni » Mer 02 Ebr 2008 4:48 pm

O mai God - y cyri gore ge's i erioed oed cyri gwedder yn Klang, Malaysia - oedd o'n wych! Blas cryf a thywyll ar y cig a'r sbeisys yn gweithio'n berffaith efo fo - isie'r rysait whap!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Gig gwedder

Postiogan sian » Mer 02 Ebr 2008 5:09 pm

Pam nad oes mwy o bobl yn ei werthu/fwyta fe te?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gig gwedder

Postiogan Sleepflower » Iau 03 Ebr 2008 8:54 am

Lle wyt ti'n prynu'r cig yng Nghaerdydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gig gwedder

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 03 Ebr 2008 9:24 am

Sleepflower a ddywedodd:Lle wyt ti'n prynu'r cig yng Nghaerdydd?


Sori, fethes i dy neges wreiddiol. Fe ges i'r goes o Farchnad Glanyrafon, ond mae o leia' un lle yn y farchnad dan do yn gwerthu (yr un ar y dde wrth ddod mewn o ochr Heol Eglwys Fair), ac mae llawer o lefydd halal (fel Al-Amin gyferbyn â fflat y Mwnci) yn cynnig y cig hefyd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Gig gwedder

Postiogan Sleepflower » Iau 03 Ebr 2008 11:23 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Sleepflower a ddywedodd:Lle wyt ti'n prynu'r cig yng Nghaerdydd?


Sori, fethes i dy neges wreiddiol. Fe ges i'r goes o Farchnad Glanyrafon, ond mae o leia' un lle yn y farchnad dan do yn gwerthu (yr un ar y dde wrth ddod mewn o ochr Heol Eglwys Fair), ac mae llawer o lefydd halal (fel Al-Amin gyferbyn â fflat y Mwnci) yn cynnig y cig hefyd.


Diolch GDG - dydd sadwrn amdani. Wna'i roi gwbod i chi shwt ma'n mynd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron