Diawl fi'n siwr bo' fi wedi blasu hwn yn Brioude blynydde nol, odi e'n gyffredin yn yr ardal hyn? O'dd lot o sibrydion am rhyw ddiod lleol hudolus os fi'n cofio'n iawn.
Atgofion melys, oni methu'n lan cael y twin 'na o'r ffilm Jean de Florette
(neu tiwn Stella Artoirs!) allan o'm mhen sdim ots le oni'n mynd! Es ar ymweliad a dref rhyfedd o'r enw Le Puy? lle anghofiai fyth rhyw wyl mawr canol oesol gyda cannoedd mewn gwisg ffansi yn gorymdeithio drwy bob stryd, neu effaith y Cerdon 'ma oedd yr hyn a welais tybed?