gan caws_llyffant » Maw 28 Chw 2006 5:20 pm
Pwnc diddorol , Huw .
Wel , mae teim yn dda os wyt ti'n tagu ( dwr poeth ar ben y teim , fel te )
Mae basil yn dda os wyt ti'n teimlo'n drist .
Te o goes ceirionen i golli pwysau .
Mae camomil yn dda os wyt ti ddim yn medru cysgu .
Finegr ar dy wallt i wneud iddo fo sgleinio . Mae finegr yn dda fel anti-septig cyffredin hefyd .
Mae burum yn dda i bron iawn pob dim ( gwallt , iau , ewinoedd , croen )
Wystrennau a lemon os wyt ti'n ddi-waed .
Garlleg yn erbyn y sugnwyr gwaed .
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "