Mi sylwais i heddiw am y tro cynta' ar siop fwyd ym Mangor sy' wedi bod yno ers blwyddyn. Ei enw yw Shah Halal ('dwi'n meddwl) ac mae o'n WYCH. Mae ffrwythau, llysiau, pulses, sbeisys a pob mathau o bethau weird & wondyrffwl yno am brisiau llawer rhatach na Tesco. Roedd 'na amrywiaeth o lysiau do'n i 'rioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen, a phethau anarferol fel plantain. Ma'r perchnogion yn bobol lyfli hefyd (ges i pistachio shortbread am ddim!)
Mae o ble roedd Cefni Fruits o'r blaen... Dros lon i Gyllid y Wlad, tipyn pellach i lawr na Cob o ganol y dre. Feir haili recomendid!