Cwrw o archfarchnadoedd

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwrw o archfarchnadoedd

Postiogan Geraint » Llun 27 Maw 2006 10:03 am

Dwi'n mynd trwy gyfnod o dri wahanol fathau o gwrw. Mae trip i'r Almaen wedi fy ysbrydoli i ddarganfod y sdwff da. Yma yn y Gogledd does dim llawer i'w gael tu ol bars, felly dwi'n trio ffeindio sdwff o offis ac archfarchnadoedd.

Ond ges i lwyddiant ysgubol ar ddydd Sadwrn wrth ffindio Schnedier Weisse o'r Almaen yn Morrisons penwythnos ma. Cwrw gwenith sy'n dywllach na'r weissebier arferol. Ma hwn yn rhagorol, llawn blas a hyfrytwch meddwol. Un o'r goreuon o'r Almaen, un o'r goreuon ffwl stop. Dim ond
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Norman » Llun 27 Maw 2006 10:15 am

Hmm, tydio'm yn gwrw, ond mae Perry, neu seidar gellyg [fela mae ei sillafu?!] yn neis iawn. Yn Ikea welishio gynta, ond mae iw gael mewn siopa eraill bellach

Delwedd
Mmmmmmm
Kopparbergs, o Sweden.
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 27 Maw 2006 10:18 am

Mewn tafarn yn Llundain ges i hwn gynta', ond mae ar gael yn yr offie ar Wyndham Road, Caerdydd, ac o Mace ar Heol yr Eglwys Newydd.

Banana i bawb o bobl y byd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Llun 27 Maw 2006 12:54 pm

Ar gael o Tesco:Birra Moretti. Lager eidalaidd ardderchog.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dili Minllyn » Llun 27 Maw 2006 1:01 pm

Norman a ddywedodd:Hmm, tydio'm yn gwrw, ond mae Perry, neu seidar gellyg [fela mae ei sillafu?!] yn neis iawn. Yn Ikea welishio gynta, ond mae iw gael mewn siopa eraill bellach.

Efallai mod i'n camgymryd, ond edrych ar y cynhwysion. Dyw'r ddiod ddim wedi'i bragu yn y dull arferol hyd y gwela i: rhyw gymysgedd o alcohol a sudd gellyg yw e.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Mewn tafarn yn Llundain ges i hwn gynta', ond mae ar gael yn yr offie ar Wyndham Road, Caerdydd, ac o Mace ar Heol yr Eglwys Newydd.

Banana i bawb o bobl y byd.

Cwrw gwych. Mae fe ar gael yn Tesco mawr Caerdydd, dwi'n meddwl, neu Sainsbury's Colchester Avenue. Wedi'i wneud o fananas Masnach Deg hefyd. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Cynyr » Llun 27 Maw 2006 1:10 pm

stwff da fan hyn

Gosser a Schladminger yn neis iawn. Dreuliaus fisoedd lawer yn fy 'Lader-hosen' yn yr Alpau yn yfed 'Steins' o'r rhain!!!!!
Yn anffodus dwi ddim yn meddwl eu bod ar werth yn offis fan hyn :(
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Postiogan Geraint » Llun 27 Maw 2006 1:34 pm

Edrych yn dda Cynyr. Bues i yn Berlin yn ddiweddar, a mi odd y cwrw yn arbennig.

Un da arall dwi newydd drial yw Hoegaarden Grand Cru, sydd yn un fwy 'gwenith-aidd' ac aur na'r hoegaarden arferol (un dwi'n dechre blino ar), mae'n 8.7% felly easy does it, ac yn flasus iawn.

Mae yfed sdwff fel hyn, a mynd i wledydd fel yr Almaen ayb yn gwneud i chi sylweddoli pwy mor wael yw y lager fizzy cemegol ofnadwy sydd mor boblogaidd yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint » Iau 30 Maw 2006 11:20 am

Ges i ddau fotel arall o Schneider Weisse neithiwr, ffycin gorjys. O ddifri, ddylai unrhyw un o chi sy'n hoff o gwrw drio hwn,
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 07 Ebr 2006 10:52 am

Fi 'di cwmpo mewn cariad gyda hwn. Mmmm, eirin gwlanog.

Oes unrhyw un arall yn ei chael hi'n anodd iawn prynu Bombardiers? :winc:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Cymro13 » Gwe 07 Ebr 2006 12:37 pm

Oes rhywun di blasu Pilsner Beer o Bohemia yn Siec
Di bod i'r Bragdy yna cwpwl o weithiau-stwff lysh
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai