Wel dwi ddim yn gweld gwahaniaeth rhwng bwyta ceffyl a buwch go iawn. Sw ni'n tri fo i beidio bod yn ragrithiol (gan bod fi'n bwyta anifeiliad eraill) ond dwi'n gorfod cyfaddef mae'r syniad yn troi arna fi.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Mae'n debyg mae cig ceffyl yn blasu fel cig danas. Felly, byddwn i'n bwyta cig ceffyl. Mae nhw'n twp hefyd a mae nhw'n haeddu i fwytwyd. Mae fy nghyfaill wedi bwyta cig ceffyl. Fyddwn i ddim yn bwyta buwch achos mae nhw'n anafeiliaid neis ac mae llaeth 'da nhw. Felly, mae nhw'n anafeiliaid da.
Ceffyl....na ddim diolch [ gwenoglun ych].
Cig byffalo wedi dod yn boblogaidd yma yn ddiweddar, a faswn i ddim yn bwyta hwnnw chwaith . Na ddim hyd yn oed y byffalo byrgers !
Ath criw ohonom i Stake House yn Cancun Mexico ac oedd pobl yn cerdded rownd gyda gwahanol fath o gig i bob bwrdd ac yn gofyn os oeddem eisiau blasu- $25 all you can eat-so ges i flas ar bron pob math o gig allech chi gael