Sut licet ti dy stêc? (How do you eat Yours? gynt)

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

sut dachi yn hoffi eich golwythen?

wedi'w losgi
2
5%
canolog i llosgedig
8
18%
canolog
6
14%
canolog i waedlyd
16
36%
gwaedlyd
10
23%
glas (ond wedi ticlo'r gril)
2
5%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 44

Postiogan Mali » Gwe 05 Mai 2006 3:00 pm

Ramirez a ddywedodd:sud dachi'n cwcio stec? Ei ffrio fo, ta ei grillio fo?


Mae'n dibynnu faint sydd yma yn bwyta ....hanner dwsin o bobl llwglyd , faswn i'n coginio'r st
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Sili » Gwe 05 Mai 2006 3:15 pm

Ramirez a ddywedodd:A gyda llaw, dwi wir angan gwybod eich barn ar hyn: sud dachi'n cwcio stec? Ei ffrio fo, ta ei grillio fo? Ei ffrio fo dwi'n neud, ond dwi'n nabod rhywun annwyl iawn sydd yn honni ei fod o'n mynd yn sych wrth ei ffrio, ac felly yn ei grillio. Sydd yn amlwg yn rwtsh, gan ei fod yn mynd lot sychach wrth ei grilio. Yntydi?


:rolio: Let it go, dear. Mae ffrio stec yn berwi'r dwr oddi arno, tra fod ei grilio efo menyn pupur wedi ei daenu drosto yn creu amlen o waed a jiws a blas cryfach o'i amgylch. Yr unig beryg ydi ei gadw dan y gril am rhy hir, gan ei fod yn sychu lot fwy sydyn na'i ffrio. Ond allai ddim dadla gormod, ma ffrio stecen wastad yn llwyddiant aruthrol!

Yr unig ffordd i fyta stec (fillet, wrth gwrs) ydi a fonta wedi bod yn hongian chydig ddyddiau fel ei fod yn dendar a ddim yn ffresh. Dos na'm byd gwaeth na cnoi stec yn syth oddi ar y fuwch. Wedyn ei gwcio am cyn lleied a phosib efo menyn pupur (a chydig o win coch os di'r achos yn galw) ar y tu allan fel fod y tu allan jest yn frown a'r tu mewn yn hollol borffor, gwaedlyd ac amrwd. Hyn i gyd efo llond llaw o fyshrwms a nionod. Mmm... :P
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Twpsan » Gwe 05 Mai 2006 3:53 pm

Canolig! Wopar o ffilet efo mbach o waed i ddyncio`ch sglods yna fo. Y peth gorau yn Y BYD!!!!! Unwaith a i i`r nefoedd, fyddai`n byta un bob dydd!!!!!!
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan Socsan » Gwe 05 Mai 2006 5:16 pm

Sili a ddywedodd:Yr unig ffordd i fyta stec (fillet, wrth gwrs) ydi a fonta wedi bod yn hongian chydig ddyddiau fel ei fod yn dendar a ddim yn ffresh. Dos na'm byd gwaeth na cnoi stec yn syth oddi ar y fuwch.


Chydig ddyddiau? :P Tria chydig wythnosau - pythefnos, ella tair! Hyfrydwch! :D
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan y fi fach » Maw 09 Mai 2006 9:17 am

fe atebwyd fy ngweddi a ges i sdec blincin biwitffyl nos sul gan y sdecfeistr! (er mi odd fy wejis in neis fyd!) wedi ei ffrio'n sydyn fo olew a menyn, efo nionyn coch d ffrio a garlic a wejis a llond trol o fwsdard. iym iym iym. Diolch m y sdec! :D
odda tin gwbod fod twit yn golygu pysgodyn aur beichiog?
Rhithffurf defnyddiwr
y fi fach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Sad 26 Maw 2005 10:42 pm
Lleoliad: lle bynag dwi'n digwydd bod

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai