Caban, Brynrefail

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caban, Brynrefail

Postiogan khmer hun » Llun 08 Mai 2006 11:44 am

Oes na rywun wedi bod fan hyn? Yn meddwl'i fod e'n haeddu edefyn ei hun. Bwyd organig blydi lyfli, a staff Cymraeg, llawer pertach a hip na fasech chi byth yn disgwyl a chithe ynghanol nunlle braidd. Gwerth ymweliad ar fore Sul. Llunie neis ar werth ar y murie, peiriant coffi ffab, a ginger beer go iawn. Mae'r menu ar y byrdde'n ddwyieithog hefyd. Ac mae John Rowlands yn ffan, fel y profodd mewn rhifyn diweddar o Barn. Yr opsiwn iachach i Pete's Eats, Llanberis, er bo lle blaenllaw i hwnnw ar unrhyw agenda fwyta.

So, tro nesa' chi ar holid
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Manon » Llun 08 Mai 2006 5:37 pm

Wel, mi 'dwi 'di clywed llawer o ganmol i'r lle yma fel es i yno i gael cinio ar ddydd gwener. Am siom! Roedd y bwyd yn hir yn cyrraedd (er bod hi'n bell o fod yn llawn yno) ac pan nath o gyrraedd, roedd o'r bwyd rong. Nes i ordro yn Gymraeg, ond saesneg ges i 'nol. Ac roedd y bwyd yn siomedig iawn. 'Dwi'n meddwl bod hi'n llwyr ddibynnu ar bwy sy'n gweithio pan ti'n mynd, achos mae rhai sydd wedi bod yno droeon yn deud ei fod o'n hit and miss. Mi wnai drio eto i weld os 'dio'n well.

(Ond mae Seiont Nurseries tu allan i gaernarfon llawer, llawer gwell.) :P
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan khmer hun » Llun 08 Mai 2006 6:11 pm

Manon a ddywedodd:(Ond mae Seiont Nurseries tu allan i gaernarfon llawer, llawer gwell.) :P


Mae fanna'n lle neis, ond alla i ddim gweud bod e llawer gwell. Rhaid bod ti wedi cael profiad hollol wahanol i'r 4 tro fi wedi bod yn Caban, Manon. Byrdde mawr pren i ti daenu dy bapur dydd Sul a bwyd syml, llawn blas sy'n plesio veggie fel fi. Falle dyna pam wy'n licio'r lle gymaint, jyst yr ecseitment o fwyd neis heb gig, a gwahanol i'r usual taten trwy'i thrwyn a cholslo cartre a la seiont nurseries. So, rho drei arall arni!
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan 7ennyn » Llun 08 Mai 2006 7:01 pm

Eiliaf sylwadau Khmer - a dwi'n argymell y cinio dydd Sul 'go iawn' hefo cig eidion a phwdin Efrog (
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Jeni Wine » Maw 09 Mai 2006 8:57 am

Mi fydd Gwilym Morus a'r band yn chwarae yno ar Fehefin 17 :P

Pris yn
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan khmer hun » Maw 09 Mai 2006 9:17 am

Jyst y peth, Jeni! Edrych mlaen.

Dros y Pasg, ro'n nhw'n cynnig buffet Siapaneaidd ac un Mediterranean drannoeth. Neis.

7ennyn - o'n i'n reit amheus o'r awyrgylch ar y dechre, yn meddwl mai mond pobol mynydda a dringwrs sy' wedi setlo'n yr ardal fyddai'n mynd 'na, ond wir i ti, mae yna deuluoedd fanc Cymraeg yna bob tro dw i yna.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai