Pa fath o sgodyn yw penfras?
Dwi'm yn gweld y topic yma'n offensif - dwi'n meddwl fod yr ehedyn yn case drist o pan mae don neu ystyr y sgwrs yn cael ei cymryd yn rong gan ei fod o ar y we.
Roeddwn i yn meddwl y byd o fy nain i ac pan oeddwn i yn fechan oeddwn i wrth fy modd yn byta rhywbeth oedd hi'n galwn 'pastai-grochan' neu 'potch-mype' a oedd, i ddeud y gwir, yn cornbeef hash. Roeddwn i hefyd yn cael brechdannau salmon o tin, fel bwyd posh.
Rwan bo fi'n hun, ac er bo fi yn cytuno bo nain yn gwneud y gorau hefo beth oedd hi'n wybod am, dwi'n teimlo'n drist mai hyn oedd y case. Fysa nain di cael y cyfle i ddysgu (a fforddio) bwydydd ffresh/ diddorol bysa hi di gallu mwynhau bwydydd llawer gwell a hefyd ella iechyd gwell.
Mae hi'n paradox (sort of ond alla i ddim gweld disgrifiad gwell) braidd bo pobl sy di symud i brydain yn cael 'dietry needs' a ballu di compensetio am - bwydydd arbennig di'w mewnforio er mwyn iddyn nhw cael 'cultural' chwarae teg (a dwi o blaid hyn by the way) tra bo pobl tlawd Cymru yn gorfod gwneud y gorau ohonni hefo soylent green.
Mae na rhywbeth sinister hefyd am y cultural conditioning sy di creu y sefyllfa lle mae pobl yn meddwl fod bwyd o tin yn gwell na bwyd fresh, ac, hyd ynoed, yn colli'r allu i greu mwythiant o llysiau ffresh ac ati - fel nestle a'r achos baby formula yn gwledydd y trydydd byd.
Dyma, os dwi'n iawn, yw mood yr ehedyn, ac, os fellu, dwi'n meddwl ei fod e'n beth pwysig iawn ei thrafod; bit close to the bone fellu ond pwysig.
Beth bynnag, gobeithio bo caws llyfant ddim yn rhu upset. Dwi'n cofio i hyn ddigwydd i mi un waith, ac, fel alltud o gymru, o ni yn teimlo fel o ni di colli llawer iawn mwy na ffrau bach ar maes-e. Os hoffet ti thrafod bwyd ar ehedyn newydd rhyw dro, mi fydda i ene i mullio drosodd y gwahaniaethau a tebygrwydd rhwng bwydydd o wahannol gwledydd