Cymedrolwr: Jeni Wine
Nanog a ddywedodd:Cig mochyn wedi'i halltu. Mae'n bosib ei brynnu mewn rhai llefydd - rwy'n credu fod na le yng Nghaerfyrddin o leiaf. Ffrio hwn hefyd. Roedd tadcu yn arfer mynd a'r gyllell a torri darn o'r cig oedd yn honghian o'r nenfwd yn y ty. Dw i ddim yn cofio hyn yn digwydd cofia. Blasus iawn medd mam ac yn wahanol i beth wyt ti'n cael yn y siop er fel 'da pobpeth, mae na well a gwaeth i'w gael. Gyda hwn, ffrio tatws, wy, madarch ac fel medd mam unwaith eto, roedd posib cael tomatos o bryd i'w gilydd pan ddauai'r ffair i'r ardal. 'Full Welsh'.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai