O'n i dan yr argraff mai I.G. a dau o'i ffrindiau oedd wedi ariannu'r fenter, a fod rhywun arall (o'n i ddim yn sylweddoli mai ei chwaer oedd hi, os felly) yn rheoli'n lleol.
Dwi ddim yn gwybod os yw Siwan yn gwneud unrhyw beth a'r lle. Dwi'n gwybod fod Rhodri Bowen yn un o'r partneriaid y cwmni tu ôl i'r peth (Poco Bara a fod nifer o fuddsoddwyr preifat yn hwnnw, yn cynnwys Ioan.
Esi am ginio sul gyda'm cariad a ffirndie a cafodd pawb eu plesio gyda'r bwyd ac roedd y staff yn gyfeillgar.
Unig gwyn yw'r diffyg cwrw go iawn (mond San Miguel, Fosters a Peroni). Roeddwn yn disgwyl o leiaf un neu ddau gwrw Cymreig gan eu bod nhw'n defnyddio cynnyrch Cymreig yn helaeth ar y fwydlen
Hefyd mae'r adran di-ysmygu yn y cefn braidd yn y cefn braidd fach a poky.
Dwi'n falch fod na fars "trendi" Cymraeg yn ymddangos- Ma llefydd fel y Mochyn Du, y Cwps a'r Glôb yn gartrefol ag ma'r awyrgylch yn gret. Ond i'r rhai sydd yn chwilio am naws gwahanol ond Cymreig, ma llefydd fel hyn yn eidial!
Beti a ddywedodd:O am siom. Bwyd hallt hallt uffernol
Hmmm. Rhaid i mi gytuno. Roedd fy sdwnsh yn hollol 'over-seasoned' tro dwetha o'n i na. Wedi dweud hynny, dwi wedi cael cig oen, cerrig gleision a tiwna reit dda 'na. Tasa nhw jest yn ysgafnhau ychydig ar yr halen a gadael i ni ddewis faint i ychwanegu, mi fasa'r bwyd loads yn well