Pieces of Ate - anfadwaith o enw - wrth y Galeri yw'r unig le sy'n boddhau fel caffi sit-down o ran bwyd. triwch y veg chilli, chips a chaws ar stumog gweddol wag, hyfryd. Soups dihafal yng nghaernarfon. heb fentro i Gaffi Maes ers iddyn nhw gael make-over whare teg.
fel arall, joio iste'n yr haul tu fas yr Harbwr yn gwrando ar y boi tu nol y bar yn cwyno am'i waith. aye, maen nhw'n slo, yn fwy felly pan maen nhw'n dawelach, hyd y gwela i. cafodd criw bach ohonon ni fwyd blasus, neis yno unweth ar noson brysur tu hwnt - y starter oedd cosyn o gaws tawdd twym yn dal yn'i groen ar hambwrdd pren, hanner bagette twym a chutney neis. oedd e'n ddigon i 4 gael pigo arno. Gwin gwin rhesymol mewn bwced wrth ein hochr, a phlated o basta ffres llysieuol yn brif ddysgl. ddim yn bwyta cig ond o'dd pawb di'u plesio. am glonc da ffrindie, a'r olygfa tu fas, chewch chi'm gwell. Ond avoid, falle, am snac ganol dydd.