Caernarfon amser cinio

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caernarfon amser cinio

Postiogan Geraint » Maw 18 Gor 2006 12:28 pm

Dwi di body n gweithio yn ‘dre’ ers dipyn nawr, ac yn trio ffindio y llefydd gorau i brynu cinio. Efallai y gall pobl erill mwy profiadol awgrymu llefydd.

Well gennai pigo rhwbeth fyny a hegli hi nol i’r ‘safe warm glow’ y sgrin cyfrifiadur i’w fwyta.

Dyma be sy’n dda so ffar:

Pantri Cymraeg ar y maes: Brechdannau da iawn, Lemon Pepper Chicken yn un da. Spiritual successor Bechdan Bach?
Pantri ar Stryd y Plas (gyferbyn Medi) – da on dim mor dda a’r uchod
Lle brechdannau wrth ymyl Harp: Brechdan Bacwn ac wy da

Lle Tseiniaidd ‘Every Day’ ar y maes: Special Lunch Buffet am £3.80! Beef in black bean sauce, sweet n sour chicken a chicken curry, efo reis neu chips. Gwd sdyff, buta un nawr!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Al » Maw 18 Gor 2006 12:30 pm

Pam nei di ddim estyn allan y ffon gerdded a mynd fyny at Min-y-nant (sillafu?)? Ma na rolls neis iawn ar gael yn fana.
Al
 

Postiogan Geraint » Maw 18 Gor 2006 12:32 pm

Al a ddywedodd:Pam nei di ddim estyn allan y ffon gerdded a mynd fyny at Min-y-nant (sillafu?)? Ma na rolls neis iawn ar gael yn fana.


Lle Al?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 18 Gor 2006 12:38 pm

Blac Boi yn neud sgram da Geraint. Ddim yn rhy ddrud.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Al » Maw 18 Gor 2006 12:41 pm

Geraint a ddywedodd:Lle Al?


Y Spar na wrth ymyl Sgubor Goch. Hen enw y siop odd Min-y-nant, cyn iddo cael ei gymeryd drosodd gan Spar. Ta beth, rolls neis iawn fana, a gwasanaeth gyda gwen(wbath prin iawn dyddia ma).
Al
 

Postiogan garynysmon » Maw 18 Gor 2006 12:46 pm

Pantri Stryd y Plas fyddai'n mynd fel arfer, os nad oes genai frechdanau efo fi.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan sian » Maw 18 Gor 2006 1:24 pm

Roedd y lle bwyd iach tu ôl i'r Nelson - rhwng Trefor Jones ac Ethel Austin - yn arfer neud pethe difyr - nut roast a phitsa cartre ac ati.
Ydyn nhw'n dal i wneud?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Maw 18 Gor 2006 1:30 pm

Pan o'n i'n gweithio yng Nghaernarfon llynedd mi o'n i fel arfer yn naill ai mynd i Castle Bakery (top Stryd y Llyn) neu Angel's Bakery (gwaelod Stryd y Llyn).

Dwi'n cytuno bod y Pantri Cymraeg ar y maes yn neis ac yn cynnig pethau gwahanol (salads neis yna hefyd) - ond mi ges i ddigon ar fynd yna ar ôl dipyn wedi i'r perchnogion ddechrau trio bod yn ffyni a dyfalu be o'n i am ei gymryd cyn i fio gerdded i mewn (dwi'm yn licio cael fy nghymryd yn ganiataol a dwi'm yn licio small-talk chwaith. Fy mai i nid nhw - hen beth sur!).

Pantri Stryd y Plas braidd yn ddienaid yn fy marn i (rhy wyn), a ti'n sicr o fod yn ciwio yna am oes gan fod y rhan fwya o staff Cyngor Gwynedd yna rhwng 12 a 2.

Ar ddydd Gwener roedden ni yn aml yn mynd allan am fwyd. Black Boi yn neis, Cofi Roc (im byd sbeshal). Yr Anglesey im yn ddrwg yn enwedig yn yr haf - ond gwna'n siwr fod gen ti ddigon o oria hyblyg achos maen nhw'n tueddu i fod yn slo. Dwi'n meddwl mai'r lle neisia aethon ni oedd Y Tebot Bach ar Stryd y Castell - tea room bach hen ffasiwn ond mi ges i'r Bagel hyfrytaf erioed yna.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan sian » Maw 18 Gor 2006 1:34 pm

Mae Carlton yn gwneud brechdanau eitha neis hefyd - gwneud nhw i ordor + sosej rôls ac ati.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Caernarfon amser cinio

Postiogan Wilfred » Maw 18 Gor 2006 1:51 pm

I'r Pantri Cymraeg ar y maes fyddai i yn mynd. Ma'r salad yno yn fargen.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai