os tisho mentro bach allan o gnarfon, ma' Meifod yn Bontnewydd yn neis iawn - awyrgylch braf yno, bwyd yn dda os ti ddim yn feji, a dim pwysa arna' chdi i yfad dy goffi cwic a thalu a bygro o 'na... fel sy'n digwydd mewn llefydd erill (Rhiwafallen)
Ma' na le neis jyst tu allan i Bethel 'fyd ma'n debyg - Ty'n Rhos, ond dwi heb fod yno (ma'n ddrud iawn).
ynglyn a rol amsar cinio, osa rywun di mentro i'r lle bach newydd sy'n lle "Yum Yums" nath droi yn lle carpad, sy di mynd yn ol yn lle bechdan eto - "On a Roll". ma'n edrach yn doji as. geshi dorth o rol yna pan oedd o'n "Yum Yums", 'mond bara gwyn sych oedd yno, ac oedd y caws yn rhad a di-flas.
dwi di dod yn ffan o'r pantri cymraeg yn ddiweddar 'fyd - twrci a colslo fa'no 'n biwtiffwl.
ond ti'n iawn am yr harbwr, mistar ti - ma' nhw'n ddifrifol o araf yna. eshi yno efo'r hogyn bach, a gorfod aros awr gyfa' i'n bwyd ni gyrradd - oedd o'n ca'l sterics erbyn hynny. ond ma' bob man 'run fath yn dre braidd - galeri, angylsi, cofi roc, macsen....