Caernarfon amser cinio

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Caernarfon amser cinio

Postiogan khmer hun » Maw 24 Meh 2008 3:46 pm

Pieces of Ate - anfadwaith o enw - wrth y Galeri yw'r unig le sy'n boddhau fel caffi sit-down o ran bwyd. triwch y veg chilli, chips a chaws ar stumog gweddol wag, hyfryd. Soups dihafal yng nghaernarfon. heb fentro i Gaffi Maes ers iddyn nhw gael make-over whare teg.

fel arall, joio iste'n yr haul tu fas yr Harbwr yn gwrando ar y boi tu nol y bar yn cwyno am'i waith. aye, maen nhw'n slo, yn fwy felly pan maen nhw'n dawelach, hyd y gwela i. cafodd criw bach ohonon ni fwyd blasus, neis yno unweth ar noson brysur tu hwnt - y starter oedd cosyn o gaws tawdd twym yn dal yn'i groen ar hambwrdd pren, hanner bagette twym a chutney neis. oedd e'n ddigon i 4 gael pigo arno. Gwin gwin rhesymol mewn bwced wrth ein hochr, a phlated o basta ffres llysieuol yn brif ddysgl. ddim yn bwyta cig ond o'dd pawb di'u plesio. am glonc da ffrindie, a'r olygfa tu fas, chewch chi'm gwell. Ond avoid, falle, am snac ganol dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Caernarfon amser cinio

Postiogan osian » Maw 24 Meh 2008 6:59 pm

Ma'r edefyn yma yn berffaith i rywun sy' ar brofiad gwaith yn Gnarfon. Oni'n geidwadol iawn dydd Llun ac eshi am Subway (hynod dderbyniol), eshi i Pieces of 8 heddiw, a geshi panini tiwna hynod neis. dwi am drio trio rwla gwahanol bob dydd. Ond os gai ginio ddim yn neis ai nol i pieces of 8.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron