Diodydd ar gyfer yr Haf.

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diodydd ar gyfer yr Haf.

Postiogan Mali » Iau 27 Gor 2006 5:16 pm

Yn ddiweddar 'ma dwi 'di cael blâs ar ysgytlaeth mefus o McDonalds aFrench Vanilla Ice Cap o Tim Hortons .
Ha! Dwi'n rhoi pwysau mlaen wrth feddwl amdanynt . :crechwen:
Pa ddiod da chi'n fwynhau yr Haf yma ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Diodydd ar gyfer yr Haf.

Postiogan sian » Iau 27 Gor 2006 5:30 pm

Mali a ddywedodd:Yn ddiweddar 'ma dwi 'di cael blâs ar ysgytlaeth mefus o McDonalds


Y diwrnod ar ôl i fi benderfynu peidio â byta pethe melys tan ar ôl Steddfod fe ges i ysgytlaeth mefus o Cadwalader's Cricieth - a lwmpyn mawr o hufen iâ yn y gwaelod.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Iau 27 Gor 2006 5:32 pm

PIMS - efo'r trimings i gyd. Dio'm run fath heb ychydig o fintys a mefus a ballu.

Kronenbourg 1664 Blanc - lager gwyn, sitrig ei flas. Ysgafn a hafaidd dros ben. Ond, gair i gall - mae'n hawdd yfed gormod ohono, ac mae'r cur pen diwrnod wedyn yn uffern.

Mae Frescatos hefyd yn wyrthiol ar ddyddiau poeth fel hyn. Y goreuon gen i yw frescato lemwn Costa, neu frappuciono mint choc chip o Starbucks (ond mae hwnnw'n mynd yn sicli ar ol dipyn). Mae'r rhai coffi yn anodd eu curo hefyd.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 27 Gor 2006 7:11 pm

Smŵddis. Dim byd mond ffrwytha' a rhew 'di malu'n rhacs jibidêrs.

I ymateb i Bimms T.Ll, mae Port a lemonêd (efo rhew mewn gwydryn hir) yn hyfryd fel newid, 'fyd.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 27 Gor 2006 7:29 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Smŵddis. Dim byd mond ffrwytha' a rhew 'di malu'n rhacs jibidêrs.


Glafoerio...

Muscadet oer neu mojito bach braf.

Beth? Sai'n credu'i bod hi'n ddiod hoyw. Mo-jito.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan dai mawr » Iau 27 Gor 2006 7:31 pm

Seidr ac oren, dim byd gwell ar ddiwrnod twym.

Espresso frappucino Starbucks yn dda iawn hefyd ond mae'n anodd mynd yn feddw arnyn nhw!
Twll dy din di Ffaro!
Rhithffurf defnyddiwr
dai mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 12:37 pm
Lleoliad: Hwntw ar goll yn Rhuthun

Postiogan bartiddu » Iau 27 Gor 2006 8:13 pm

Shampen Ysgawen!
Ma'r macsad cynta'n barod, er camgymeriad oedd rhoi siwgir castor ynddo fi'n credu, gan nad o'dd siwgir cyffredin yn y ty ar y pryd, gobeithio fydd yr ail ymgais yn well gyda'r siwgir cywir! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Mali » Iau 27 Gor 2006 9:31 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Smŵddis. Dim byd mond ffrwytha' a rhew 'di malu'n rhacs jibidêrs.


Wyt ti'n eu cymysgu efo hufen ia neu lefrith weithiau ? Neu fasa hwnw yn fwy o ysgytlaeth na smŵddi. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 27 Gor 2006 9:34 pm

Mali a ddywedodd:
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Smŵddis. Dim byd mond ffrwytha' a rhew 'di malu'n rhacs jibidêrs.


Wyt ti'n eu cymysgu efo hufen ia neu lefrith weithiau ? Neu fasa hwnw yn fwy o ysgytlaeth na smŵddi. :?


Yn ôl Wikipedia...

A smoothie is a blended non-alcholic beverage made from natural ingredients, usually fruits and juices but sometimes other natural flavors such as chocolate, peanut butter or even green tea. Many smoothies use ice or frozen fruit to make them into cold partially frozen beverages. They resemble milkshakes in the sense that they have a thicker consistency than slush drinks, but unlike milkshakes, they are often non-dairy and do not contain ice cream.


Oes unrhyw un wedi cael un o'r Innocent Detox Smoothies? Y ddiod berffaith ar gyfer pen mawr.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mali » Iau 27 Gor 2006 9:37 pm

bartiddu a ddywedodd:Shampen Ysgawen!


Www, hwna'n swnio'n ddiddorol iawn. 8) Tua faint o boteli gei di wrth ddefnyddio'r cynhwysion yn dy risaet?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron