Crochenwaith cynhwysyddion te coffi siwgr ac ati

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Crochenwaith cynhwysyddion te coffi siwgr ac ati

Postiogan LowRob » Maw 08 Awst 2006 9:13 am

A oes gan unrhyw un syniad ble galla i brynu cynhwysyddion te coffi ac ati sy'n dweud 'te' 'coffi' arnynt yn Gymraeg?
Nid y rhai brown sydd i'w cael yn y rhan fwyaf o siopau Cymraeg, ond y rhai pinc a glas?
Mae gan fy chwaer bowlen efo 'bowlen' arni ac mae gan fy ffrindiau 'coasters' efo gwin, panad ac ati arnynt
Help!!
Dwi 'di bod yn chwilio am oesoedd!!
LowRob
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Maw 13 Ebr 2004 3:39 pm
Lleoliad: Croesoswallt / Wrecsam

Re: Crochenwaith cynhwysyddion te coffi siwgr ac ati

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 08 Awst 2006 9:15 am

LowRob a ddywedodd:A oes gan unrhyw un syniad ble galla i brynu cynhwysyddion te coffi ac ati sy'n dweud 'te' 'coffi' arnynt yn Gymraeg?
Nid y rhai brown sydd i'w cael yn y rhan fwyaf o siopau Cymraeg, ond y rhai pinc a glas?
Mae gan fy chwaer bowlen efo 'bowlen' arni ac mae gan fy ffrindiau 'coasters' efo gwin, panad ac ati arnynt
Help!!
Dwi 'di bod yn chwilio am oesoedd!!


Mae 'na siop yn Rhydaman sy'n neud rhai neis iawn, ond sai'n gallu cofio enw'r siop. O's 'na rywun o'r ardal sy'n gallu helpu? Ddim yn bell i fynd os byddi di lawr yn y Steddfod wthnos 'ma.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Rhys » Maw 08 Awst 2006 9:18 am

Prynnais i coasters gyda 'panad' arnynt (er mai 'paned' oeddwn eisiau :? ) ar faes yr eisteddfod tua 4 mlynedd yn ôl. Allai'm cofio ar stondin pwy, roedd crysau T Canys Ruffus ar yr un stondin dwi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan khmer hun » Maw 08 Awst 2006 9:21 am

Tom Gloster (Cymro Cymraeg) sy'n cynhyrchu'r bowlenni cain glas, pinc a gwyrdd yn'i weithdy yng Nglynllifon. Werth mynd draw yna i weld. Mae'n gallu neud pethe i ordor, ac yn foi neis iawn.

Ddim yn meddwl mai fe sy'n neud y coasters sgwâr mwy sgleiniog â peint neu paned arnyn nhw. Tria Oriel Pwlldefaid ym Mhwllheli neu Gricieth am rheiny.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai