Teisen ffenest

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Teisen ffenest

Postiogan Dili Minllyn » Sul 20 Awst 2006 6:28 pm

Dwi newydd ailddarganfod pleser digymysg teisen ffenest. Oes rhywrai eraill yn gaeth i'r danteithyn sgwarog melyn a phinc?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Teisen ffenest

Postiogan Dewi Lodge » Llun 21 Awst 2006 7:52 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi newydd ailddarganfod pleser digymysg teisen ffenest. Oes rhywrai eraill yn gaeth i'r danteithyn sgwarog melyn a phinc?


Ychafi!! Ma gas gen i marsipan!! Mwynha dy deisen, Dili, ond dim i mi, diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan bartiddu » Llun 21 Awst 2006 9:41 am

O'dd mamgu arfer prynu teisen 'da'r fan pobydd o'dd yn galw bob wythnos. Nawr te, fi methu cofio beth oedd enw'r hyfrydwch o deisen, un masnachol ydoedd.
Roedd yn dod mewn blwch cardfwrdd du tua 4"x 4"x8", haenen o siocled tennau oamgylch y cwbwl, sbwng melyn tu fewn a haenen tua hanner modfedd o hufen-menyn yn mynd trw'r canol, hyfryd iawn, falle taw Fry's neu Lyons o'dd yn neud e, methu dod o hyd i ddim ar y we, rhyw deisenwr doeth yn gwybod mwy?
O'dd e'n ffecin ffein! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan SerenSiwenna » Llun 21 Awst 2006 9:55 am

Yum yum - o ni di anghofio am y cacen hyfryd yma....ond rwan dwi'n sidro mynd lawr i'r siop i nol un!

Dwi mor hoff o marsipan dwi di prynnu chwnc ers stalwm ai fyta fo mewn ciwbs! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Teisen ffenest

Postiogan Mali » Maw 22 Awst 2006 12:15 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi newydd ailddarganfod pleser digymysg teisen ffenest. Oes rhywrai eraill yn gaeth i'r danteithyn sgwarog melyn a phinc?


Diolch am gynnwys y llun Dili . Doedd gen i ddim syniad sut fath o deisen oedd Teisen ffenest.
Ond am enw da iddo . :D
Heb gael un ers talwm iawn .....
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Llewelyn Richards » Maw 22 Awst 2006 10:23 am

Iyc. Bwyd y diafol. Cacen Madeira neu Dundee bob tro. Hang on, mae na bol piniwn yn ffurfio yn fy mhen. Rhowch amser i mi feddwl am y gwahanol fathau o gacenni.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Geraint » Maw 22 Awst 2006 11:41 am

Battenburg?

Mmmm neis.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dili Minllyn » Maw 22 Awst 2006 8:23 pm

Geraint a ddywedodd:Battenberg?

Yr union un.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan dafydd » Maw 22 Awst 2006 9:19 pm

Mmm dwi'n hoffi batynbyrg, yn bennaf am y marzipan. O'n i'n cael stwr yn blentyn am fwyta darnau mawr o floc marzipan oedd fod ar gyfer cacen Nadolig. Almon(d) yw fy hoff gneuen hefyd.. ond os dwi'n bwyta gormod ohonyn nhw dwi'n mynd i deimlo'n ychydig yn rhyfedd.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 22 Awst 2006 11:03 pm

Teisen Ffenest Pimpiedig

Mmmarzipan. O'n inna'n arfar ei brynu yn Lo-Cost a'i fyta mewn un go.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron