gan mam y mwnci » Llun 11 Medi 2006 4:09 pm
Dyma'r unig ffordd i fi wneud ac mi oedd o'n nei iawn.
Tymheredd ffwrn 220
Bach o fenyn mewn tin rhostio
Torri nionon mewn cylchoedd a gorchuddio gwaelod y tray. Rhoi garlleg a thyme dros y nionod.
Halen a pupur ar y gwningen a'i dodi ar ben y nionon. Yna gorchuddio y cig efo Bacwn(streaky) - nid lapio y cig yn yn y bacwn ond yn hytrch just ei osod fel blanced.
Yna gwneud peli stwffin (cartref os oes gen ti fynedd) a'u gosod rhwng y darnau cig.
coginio am 20 munud.
Tynnur cig allan a rhoi mwy o berlysiau am ben y cig (yn arbenig dail saij wedi eu dipio mewn olew olewydd) coginio am 15-20 pellach.
Tynnu'r cig a'r stwffin o'r tin a gosod y tin ar ben y hob - rhoi dipyn o seidr yn y tin a'i ferw nes ei fod yn twchu - arllwys y 'saws' a nionon am ben y cig a bwyta - tatws newydd a sugar snap peas ges i tro dwethaf - hyfryd.
Yn amleg galli di ddisodli cynhwysion am yr hyn sydd gen ti - ond o leiaf mae hwn yn rhoi syniad.
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.