Cinio Dydd Sul

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cinio Dydd Sul

Postiogan Beti » Maw 19 Medi 2006 4:04 pm

Lle sy'n neud cinio dydd Sul neis? Yng Nghymru lly.
O'n i'n arfer mynd i Tafarn (Riverbank gynt) yn Nghaerdydd am chwip o ginio dydd Sul - ymysg y gorau ond dyn nhw ddim yn neud o ddim mwy. Dwi'n cael job ffeindio rhywle go lew 'di mynd - rhywle lle nad ydy'r llysie di bod yn berwi ers tua 8 y bore hwnnw.
Ble alla i fynd? Ble? :crechwen:
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 19 Medi 2006 7:03 pm

Ti'n meddwl Caerdydd yn unig? O ni arfer mynd i'r Heath pan o ni yn coleg. So hwna'n posh iawn - ond eitha derbyniol i weld y pel droed p'nawn dydd sul gyda peint ne dwy. :)

Tifas o'r ddinas mawr dwi'n lico'r cino sul yn The Gradon yn Creunant (rhwng Ystradgynlais a Gastell Nedd). Sai'n ffan mawr o cino sul, ond ma hwna'n uffach o ffein.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan xGeshaPwy?!x » Maw 19 Medi 2006 9:42 pm

Cinio Dydd Sul Bryncir Arms su'n neis!! Hen ffasiwn ond neis! Ond yn anffodus mae o braidd yn bell o Gaerdydd!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
xGeshaPwy?!x
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sul 29 Ion 2006 10:01 pm
Lleoliad: Tre'r Ci Gwyllt!

Postiogan Jeni Wine » Mer 20 Medi 2006 8:56 am

Cinio DySul y Traveller's Rest ar yr hen ffordd o Gaerdydd i Gaerffili.
Braidd yn ddrudfawr ond mae o werth pob ceiniog goch y dima. A ma na bwdina ffantastig yna hefyd. iamiam.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan mam y mwnci » Mer 20 Medi 2006 9:50 am

Carvery yr hilton yn dre yn neis iawn a ddim yn ofnadwy o ddrud chwaith.
Gravy gwahannol i pob cig - dyna'r gwahaniaeth rwng lle da a drwg i mi - os ydyn nhw yn rhoi yr un gravy efo pob cig yna does dim parch ganddynt at blas y bwyd.
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan løvgreen » Mer 20 Medi 2006 9:55 am

Blydi hel, ers pryd ma na Hilton yn dre?? :D
Rhaid imi fynd allan yn amlach!
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan mam y mwnci » Mer 20 Medi 2006 10:03 am

løvgreen a ddywedodd:Blydi hel, ers pryd ma na Hilton yn dre?? :D
Rhaid imi fynd allan yn amlach!


:wps: ia sorri ti'n iawn - hen gast anifyr yn de - ers fy nyddiau yn byw yn y mwg drwg :winc:

yr Hilton yng nghanol Caerdydd yn neud cinio dydd Sul neis!
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron