Dros y Sul, mi esh i a'r gwr anghyfreithlon, fy mam, a'i chariad hithau am bicnic i Abergwyngregyn. Mi gerddon ni i fyny at Readr Aber
a chasglu llond ein haffla o eirin tagu ar y ffordd.
Ddoe, mi brynodd Mihangel 7 potel o jin rhad o Aldi (tua 10 peint) ac mi dywallton ni'r job lot i mewn i fwced efo'r holl eirin tagu (tua 4 pwys) a tua 16owns o siwgwr gwyn. Da ni wedi rhoi'r caead ar ei ben a da ni am adael y cwbwl nes Dolig.
Unrhyw un arall wedi mentro gwneud Jin Eirin Tagu?