Tudalen 1 o 1

Dyn llaeth yng Nghaerdydd?

PostioPostiwyd: Maw 03 Hyd 2006 5:33 pm
gan Fflamingo gwyrdd
'Sa'n handi ca'l peint neu ddau o laeth ar sdepan drws.
Be'di'r drefn am betha' felma?
Oes 'na fwy nag un cwmni dosbarthu llaeth yn y ddinas?
Sut mae cael gafael arnyn nhw?

Thenciw un antisipeshyn 8)

Re: Dyn llaeth yng Nghaerdydd?

PostioPostiwyd: Maw 03 Hyd 2006 10:07 pm
gan dafydd
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:'Sa'n handi ca'l peint neu ddau o laeth ar sdepan drws.

Dairy Crest yw un o'r cwmniau prin sy'n dal i ddod a llaeth i'r drws - pobman yng Nghaerdydd dwi'n meddwl. Os wyt ti eisiau edrych rownd am ddewis arall, falle fydd rhaid gwneud bach o ymchwil drwy Yell.

PostioPostiwyd: Mer 04 Hyd 2006 3:47 pm
gan Dili Minllyn
Trïa hwn hefyd: http://www.findmeamilkman.net/

Dwi'n byw ym Mhenylan, ac yn cael llaeth at y drws bob bore gan JJ's Dairy yn Llysfaen. Maen nhw'n brydlon, cwrtais ac yn gwerthu pob math o laeth, a llaeth o Gymru yw e fel arfer.

Mae llaethdy anferth ar ben dwyreiniol Newport Road, ychydig cyn y bryn tua Thredelerch a Llanrhymni. Efallai y byddai'n werth holi yn fan'na hefyd.

PostioPostiwyd: Llun 09 Hyd 2006 5:48 pm
gan Chwadan
Diolch am y lincs...ma llaeth yn drwm i'w gario o'r siop :)