Tudalen 1 o 1

Swmp brynu / prynu mewn bwlc

PostioPostiwyd: Sad 07 Hyd 2006 3:56 pm
gan Mali
Oes 'na rai eraill yn gwneud hyn?
Mi fyddai'n swmp brynu yn aml iawn yn ein siopau lleol , ond yr adeg yma o'r flwyddyn , mae'r farchnad fferm yn fy nenu yno.
Ddoe, mi gawsom focs o datws, sach o nionod, a sach arall o foron ar gyfer y gaeaf. :D

PostioPostiwyd: Llun 09 Hyd 2006 9:29 am
gan Dili Minllyn
Call iawn, os oes gyda chi rywle sych ac oer i'w cadw nhw. Wiethiau, mae sachaid 20kg o datws priddiog yn costio bron cyn lleied â rhyw becyn bach ffansi 500g o datws taclus wedi'i golchi yn lân a sgleiniog o'r archfarchnad.

PostioPostiwyd: Llun 09 Hyd 2006 4:29 pm
gan Mali
Digon gwir Dili . Tatws Russets ddaru ni brynu ....bocs 25pwys. Tatws da i'w malu efo menyn ac i'w coginio yn y popty. :D Mi ddylia nhw bara tua dau fis i ni oleiaf mewn cwpwrdd yn y garej.
Wedi rhanu'r moron a'r nionod efo cymydog i ni ....dim isho bod yn rhy farus. :winc: