Byffet

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Byffet

Postiogan Mici » Llun 09 Hyd 2006 1:46 pm

Wrth glirio darnau o Spring Rolls a Goujons oddi ar y llawr am bedwar gloch bora, nes i feddwl fysa edefyn am Buffet(Wedi ei ynganu Buff-et wrth gwrs) yn dda.

Dwi cofio cael clamp o byffet yn Cyngor Conwy, mi oedd na Scampi, darnau o cyw iar, Spring Rolls a wedyn eclairs a donuts i bwdin. Gwych ta be, dwi hefyd di cael ambell i un sal, fel bechdanau llipa o duw a wr be?

Beth yw eich hoff fwyd byffet?

Unrhyw byffet cofiadwy/anghofiadwy?
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Ray Diota » Llun 09 Hyd 2006 2:08 pm

es i i dri 'function' mewn 1 dwrnod wthnos dwetha'! top buffeting!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Dili Minllyn » Llun 09 Hyd 2006 2:28 pm

Un efo ychydig o lysiau ffres a dips ysgafn, yn lle startsh a saim i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Owain » Llun 09 Hyd 2006 3:13 pm

es i i dri 'function' mewn 1 dwrnod wthnos dwetha'! top buffeting!


Chwara teg, ma hynna'n impressive Ray :P

Ma na ddynes o'r enw Norma sy'n gneud rhai neis iawn yng Ngheredigion. Ma hi'n gneud 'finger-sandwiches' sy'n blydi lyfli. Yn anffoduds, dwi'm yn cael gymaint o bwffe's ers fi newid swydd :(
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan Siliseibyn » Llun 09 Hyd 2006 3:20 pm

Fydd na ddipyn o gynnydd ar y bol cwrw na ar ol yr holl guinness a byffets na pan ddoi di adra felly Mici!! :winc:
Siliseibyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Sad 03 Medi 2005 8:33 am

Postiogan Mali » Llun 09 Hyd 2006 4:39 pm

Ydi , mae'r byffets yn handi iawn . 8) Braf 'di cael dewis be da chi isho , ond y dueddiad ydi cymeryd gormod ar y blatiad gyntaf. Dwi'n meddwl mai'r peth doeth i'w wneud mewn unrhyw byffet ydi cymeryd ychydig i gychwyn fel eich bod yn medru mynd yn ôl am chwaneg, a'i fwynhau!
Mi fyddai'n dueddol o osgoi unrhyw byffet yn ystod y tymor anwyd gan fod pawb yn helpu eu hunain , felly digon o germs ar y llwyau. :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Chwadan » Llun 09 Hyd 2006 5:41 pm

Ar benblwydd fy fflat-ffrind coleg yn 21, gawson ni booffet (prif gwrs) a pooffet (pwdins). Oedd o'n gret. Oedd gennan ni bwyllgor booffet a phwyllgor pooffet efo fflat ni'n gyfrifol am y booffet a fflat drws nesa'n gneud y pooffet. Roedd na fflagia bach ar bob plat yn deud be oedd popeth a nathon ni ddigon i ddau ddwsin. Cofiadwy :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Mici » Maw 10 Hyd 2006 2:25 pm

Fydd na ddipyn o gynnydd ar y bol cwrw na ar ol yr holl guinness a byffets na pan ddoi di adra felly Mici!! Winc


Ddim rhy ddrwg gan fy mod cerddad rhanfwyaf i ffwrdd, ond mae'r Guin yn ddrwg i'r bola fud.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron