Wrth glirio darnau o Spring Rolls a Goujons oddi ar y llawr am bedwar gloch bora, nes i feddwl fysa edefyn am Buffet(Wedi ei ynganu Buff-et wrth gwrs) yn dda.
Dwi cofio cael clamp o byffet yn Cyngor Conwy, mi oedd na Scampi, darnau o cyw iar, Spring Rolls a wedyn eclairs a donuts i bwdin. Gwych ta be, dwi hefyd di cael ambell i un sal, fel bechdanau llipa o duw a wr be?
Beth yw eich hoff fwyd byffet?
Unrhyw byffet cofiadwy/anghofiadwy?