Hoffwn argymell y lle hon. Fuon ni yna am ginio Sul yn ddiweddar, ac mae hi'n fargen. Talon ni tua £6 yr un am gymaint o fwyd ro'n ni moyn, gan gynnwys pwdin.
Dyw'r bwyd ddim yn arbennig, ond chinese arferol digon neis a digon o ddewis i lysieuwyr - nwdls, prydau reis, llysieu, prawn cracrs etc. I pwdin, gewch chi hufen ia, ffrwthau, cacennau, doughnuts. Ond am y pris 'na mae'n ffantastig.
Mae hi'n ddrytach amser te ond dwi'n clywed bod y bwyd yn fwy posh pryd 'ny ac mae bwyd y mor etc i gael.
Mae'r awyrgylch yn dda - lluniau mawr ar y waliau mewn steil modern, a digon o olau. Dwi'n credu taw hen adeilad banc yw e.
Oes rhywun arall wedi profi fe?