Tudalen 1 o 2

Maip

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 5:06 pm
gan Dili Minllyn
Beth yw'r ffordd orau i goginio maip?

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 7:39 pm
gan Mali
Ei dorri i fyny a'i ferwi fyddai rhan fwyaf o'r amser , wedyn stwnsho fo efo menyn mmm. :) Neisiach fyth , ychwanegu ychydig o datws wedi stwnsho iddo.
Yn ddiweddar mi fyddai'n coginio llysiau debyg yn y popty....rhyw gymysgfa o yam, nionyn coch, moron, parsnip wedi eu cymysgu efo ychydig o maple syrup a parsli , sage ,neu sbrigyn o rosmari ar y top.
375F am oddeutu 50 munud gan eu troi hanner amser ..... :D

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 9:49 am
gan Dili Minllyn
Diolch, Mali. Trïais i eu stwnsio gyda thatws ond roedden nhw'n rhy wydn i'w stwnsio'n iawn. Mae rhostio'n swnio'n well.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 10:38 am
gan dave drych
Mali a ddywedodd:Ei dorri i fyny a'i ferwi fyddai rhan fwyaf o'r amser , wedyn stwnsho fo efo menyn mmm. :) Neisiach fyth , ychwanegu ychydig o datws wedi stwnsho iddo.


Tria stwnsho nhw efo moron - rili neis! Ti'n cael rhyw lwmpyn neis lliw orinj golau. Dyne be oedd mam arfer neud adre efo cinio dydd Sul (i drio gael fi a fy mrawd i fwyta swêj oherwydd oeddo'n afiach ar ei ben ei hun)

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 10:43 am
gan khmer hun
Neud jac lantarn gydag e, ar gyfer noson Galan Gaea'.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 10:48 am
gan Jeni Wine
Delwedd

I'w stwnshio nhw'n dda, gwna hynny efo wisgs trydan, joch o lefrith a chorneliad o fenyn Eifion.
Wedyn sbrincla sgwaria bach o facwn mwg wedi ffrio ar ei ben.
Hyfryd efo cyw iar rhost. :P

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 2:04 pm
gan Dili Minllyn
dave drych a ddywedodd:Tria stwnsho nhw efo moron - rili neis!

Syniad da. Mae maip yn llawer tebycach eu natur i foron nag i datws. Fel mae Jeni'n dweud, dwi'n meddwl y byddai prosesydd bwyd trydanol yn help hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 2:10 pm
gan SerenSiwenna
Mali a ddywedodd:Ei dorri i fyny a'i ferwi fyddai rhan fwyaf o'r amser , wedyn stwnsho fo efo menyn mmm. :) Neisiach fyth , ychwanegu ychydig o datws wedi stwnsho iddo.
Yn ddiweddar mi fyddai'n coginio llysiau debyg yn y popty....rhyw gymysgfa o yam, nionyn coch, moron, parsnip wedi eu cymysgu efo ychydig o maple syrup a parsli , sage ,neu sbrigyn o rosmari ar y top.
375F am oddeutu 50 munud gan eu troi hanner amser ..... :D



Ooooooo, swnio'n fendigedig, dwi eisiau trio hwn. Wyt ti'n torri'r yam, parsnip, moron ayyb mewn i cibs ai rhostio nhw? neu ydw i wedi camddallt a ti'n gofod ei ferwi, ei stwnsio nhw a wedyn pobi nhw hefo'r maple syrup?

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 3:34 pm
gan Lodes Fech Glen
Mali a ddywedodd:Yn ddiweddar mi fyddai'n coginio llysiau debyg yn y popty....rhyw gymysgfa o yam, nionyn coch, moron, parsnip wedi eu cymysgu efo ychydig o maple syrup a parsli , sage ,neu sbrigyn o rosmari ar y top.
375F am oddeutu 50 munud gan eu troi hanner amser ..... :D



Neu defnyddio yr un llysiau a'r uchod ond arllwys 3 llond llwy o 'Olive oil' a ychwanegu peth mixed herbs a rhoi nhw i aros am gwpwl o orie ag wedyn rhostio nhw. Blasus iawn!!

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 4:24 pm
gan Mali
SerenSiwenna a ddywedodd:Ooooooo, swnio'n fendigedig, dwi eisiau trio hwn. Wyt ti'n torri'r yam, parsnip, moron ayyb mewn i cibs ai rhostio nhw? neu ydw i wedi camddallt a ti'n gofod ei ferwi, ei stwnsio nhw a wedyn pobi nhw hefo'r maple syrup?


Dim gwaith berwi na stwnshio Seren . Mae 'na sawl risaet ar y we , a dyma un
Delia
Mi fyddai'n eu coginio nhw mewn desgl pyrex hir .