Cacen Sara Ann Cwm Morgan
3 llond mwg o fflwr codi (mwg o'ch dewis eich hyn, ond sdim angen un mawr!)
1 mwg o siwgir
1 mwg o cwrents / syltanas
1 wy
¾ peint o lâth (braster llawn sy' ore!)
Cymysgwch y cwbwl yn drwyadl
Rhowch mewn tin (wedi'u leinio)
Pobwch am oddeutu 1¼ awr ar tua 180 c
...............................................................................
Gês afael yn y reseit hyn gan berthynas ddoe, mynd i rhoi cais arni rhwbryd, os ma' rhywyn am fentro cyn fi, rhowch wbod sut flas sy' arni!
*O.N. aeth hi eitha da, gormod o gymysgedd o'dd da fi, felly sdim angen myg enfawr! Menyn arni, mmm blasus! **