Rwy'n hoff iawn o sglodion 'The Codfather' yn Nhreganna (er bod rhai ffrindiau yn canu clodydd 'Pete's Plaice' rownd y gornel) a hefyd 'The Almighty Cod' (neu falle 'Cod Almighty yw ei enw) yn Nhrealaw. Yn y 'Codfather' mae'n rhaid aros am y pysgodyn bob tro gan eu bod nhw'n ffrio nhw'n ffresh ond mae'n werth aros.
Ond yn ddiweddar, tra'n teithio ar yr A470, stopes i yn Llanfair ym Muallt a cael sglodion yn y 'Merrie Fryer' (plis, dim mwy o puns fel enwau siopau chiips), a nhw sy'n ennill y blaen gyda fi - gyda'r chips ta beth, heb flasu'r pysgodyn eto.
Oes gan rhywun arall awgrymiadau am lefydd da i gael sglodion 'i fynd'?