Nadolig Masnach Deg

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Nadolig Masnach Deg

Postiogan Dili Minllyn » Mer 15 Tach 2006 3:10 pm

Dwi newydd fod yn Oxfam, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, ac mae yna lwyth o ddanteithion Masnach Deg i'w cael ar gyfer dathlu Gŵyl y Geni (teisenni, ffrwythau sych, cnau, sawsiau ac ati). Nadolig Moesol amadani, felly; ac un llesol i ffermwyr Affrica, os nad i faint fy mola.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Positif80 » Mer 15 Tach 2006 3:15 pm

'Sgen i ddim moesau (wel, ddim llawer beth bynnag :crechwen: ) felly ni fydda i'n prynu'r nwyddau yma. Ond eto, mae'n syniad da gan Oxfam.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Gowpi » Mer 15 Tach 2006 5:36 pm

Wy'n ffeindio bod addurniadau Nadolig Oxfam yn gorjys. Mae'n nhw'n cael eu gwneud ym mhob math o wledydd ee Periw, Ecwador, Bangladesh ayb. Mae'n nhw'n lot hyfrytach na rhai y stryd fawr, ac mae'r arian yn mynd at eu gwneuthyrwyr - sai'n deall pam dala nol felly?

Ma' siocled a choffi masnach deg yn fendigedig hefyd... :D
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan sian » Mer 15 Tach 2006 7:25 pm

Gowpi a ddywedodd:Ma' siocled a choffi masnach deg yn fendigedig hefyd... :D


Pa goffi? Fi'n ffaelu'n deg â ffeindio coffi masnach deg ffein - instant.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan gronw » Mer 15 Tach 2006 10:15 pm

dwi ddim yn yfed coffi, ond hwn sy yn tŷ ni a dwi heb glywed dim complênts:

Delwedd

organic, fairtrade a decaff, how feri dosbarth canol.

(os ti'n drygi, ma na rai caffîn hefyd, gweler gwefan y cwmni)
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Gowpi » Iau 16 Tach 2006 9:28 am

Stwff da yw stwff Cafe Direct - ma' rhain yn cael eu gwerthu yn yr archfarchnadoedd mawrion yn ogystal...
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan sian » Iau 16 Tach 2006 9:40 am

Ie, Cafe Direct neu Clipper dw i'n brynu (gyda chaffîn) ond daeth y g?r adre â Kenco Purely Costa Rican rhyw ddiwrnod ac mae 'na GYMAINT o wahaniaeth rhyngddyn nhw. Mae'n cwyno 'mod i'n dwyn ei goffi e nawr.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Gowpi » Iau 16 Tach 2006 11:56 am

Rhyngddo ti, dy taste buds a'th gydwybod sbo... :winc:
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan sian » Iau 16 Tach 2006 12:03 pm

Newydd gael paned o Clipper - dim yn ddrwg o gwbwl, sbo.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Iau 16 Tach 2006 3:29 pm

sian a ddywedodd:Cafe Direct (gyda chaffîn)
hwn fyddai'n fynnu gael yn ty - gesi 3 panned mewn amser byr iawn nithiwr - oni angen fy nghadw'n effro...
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron